Cynllun Cyflawni 2025/2026

  • Amcan Llesiant 1 - Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol
  • Amcan Llesiant 2 - Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallant ffynnu
  • Amcan Llesiant 3 - Byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal cynnar sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus
  • Amcan Llesiant 4 - Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn ffisegol
  • Amcan Llesiant 5 - Byddwn yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i'r amgylchedd lleol
  • Amcan Llesiant 6 - Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i gynnal busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog egin fusnesau a busnesau newydd
  • Amcan Llesiant 7 - Byddwn yn hybu ffyrdd iachach o fyw yn Nhorfaen i wella lles meddyliol a chorfforol
  • Amcan Llesiant 8 - Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a'n treftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac ymweld ag e
  • Amcan Llesiant 9 - Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau

Amcan Llesiant 1

Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol

Amcan Llesiant 1
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Rhaglen Ysgolion yr

21ain ganrif

 

  • Dechrau adeiladu'r ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Maendy a gwella'r addysgu a'r dysgu, trwy fuddsoddi £17m yn y gwaith o adeiladu'r ysgol garbon-sero-net newydd yn lle'r adeilad sydd yn Ysgol Gynradd Maendy ar hyn o bryd.

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltu

Mae'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Cam 1 – disgwylir i adeilad newydd yr ysgol fod wedi ei gwblhau ym Mehefin 2025. Cam 2 – dymchwel hen adeiladau, cwblhau'r tir a'r adeilad Gofal Plant erbyn Ionawr 2026

  • Ailwampio Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg – Ysgol Bryn Onnen

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltu

Prosiect Ailddechrau – rhaglen i'w datblygu

  • Ysgol Gynradd Maendy - Dechrau'n Deg a Gofal Plant (Cam Adeiladu)

Yr Economi a Lle

Wedi'i gwblhau erbyn Mawrth 26

Strategaeth Llesiant

  • Llunio dull gweithredu Ysgol-Gyfan ar gyfer y strategaeth llesiant.  Bydd yn cael ei oleuo gan ddata SHERN, Iechyd y Cyhoedd, Ysgolion, pobl ifanc a rhanddeiliaid eraill

ADY, Cynhwysiant a Llesiant

Lansio'r Strategaeth Llesiant erbyn Mawrth 2026

Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad

  • Gwella'r ystod o ddarpariaeth, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg sydd ag ADY

ADY, Cynhwysiant a Llesiant

Cwblhau asesiad o ddigonolrwydd a chapasiti ar gyfer yr anghenion ADY cyfredol a'r anghenion a ragwelir, yn unol â chod ADY pennod 7 a gofynion WESP erbyn Mawrth 2026

Canlyniadau Dysgwyr

 

  • Mesurau canlyniadau arholiadau cenedlaethol: mae canlyniadau ysgolion unigol a chanlyniadau CBST at ei gilydd yn unol â’r disgwyliadau a fodelwyd gan Lywodraeth Cymru e.e. mesurau Cap Naw, Llythrennedd, Gwyddoniaeth a Rhifedd

 

Gwella Ysgolion / Dysgu a Chyrhaeddiad

 

Cyhoeddi dadansoddiad data blynyddol ym mis Rhagfyr 2025/Ionawr 2026.

Canlyniadau yn unol â'r disgwyliadau a fodelwyd gan Lywodraeth Cymru neu'n uwch

Strategaeth Bresenoldeb "DdimMewnColliMas"

  • Parhau i weithio gydag ysgolion i sefydlu ‘Anelu am y 95' a pharhau i godi ymwybyddiaeth gan ddefnyddio'r ymgyrch #DdimMewnColliMas i wella presenoldeb a phrydlondeb yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd

Gwasanaeth Lles Addysg

Cynnydd o 1 pwynt canran erbyn Gorffennaf 2025

Cynnydd o 0.75 pwynt canran pellach erbyn Mawrth 2026

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru

  • Darparu lleoliadau profiad gwaith gyda’r Cyngor ar gyfer 36 o bobl ifanc (o dan 16 oed i ddechrau) sydd mewn perygl o ddod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a/neu Blant sy'n Derbyn Gofal

Tîm Ysbrydoli

36 o bobl ifanc mewn lleoliadau profiad gwaith erbyn Mawrth 2026

  • Lleihau canran y bobl ifanc sy'n gadael blwyddyn 11 sydd wedi'u categoreiddio fel rhai 'nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant' gan Gyrfa Cymru o 2% i 1.9% erbyn Rhagfyr 2024

Tîm Ysbrydoli

<1.9% o bobl ifanc sy'n gadael blwyddyn 11, ddim mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant

erbyn Rhagfyr 2025

  • Cyflwyno 125 o gymwysterau (fel y'u diffinnir gan y Fframwaith Credydau a Chymwysterau) i bobl ifanc oed uwchradd wedi'u targedu sydd â risg o beidio â symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth

Tîm Ysbrydoli

125 o gymwysterau wedi'u cyflwyno i bobl ifanc oed ysgol uwchradd sydd mewn perygl o beidio â symud ymlaen i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant erbyn Mawrth 2026

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

  • Cwblhau'r Cam Adeiladu/Gosod Ebrill 25 a'r Cyfnod Diffygion Ôl-Gwblhau ar Faes 3G Llantarnam

Yr Economi a Lle

Cwblhau/Gosod erbyn Ebrill 25

 

Cam Diffygion Ôl-Gwblhau erbyn Ebrill 26

Rhaglen Rheoli Asedau (Ysgolion)

  • Cyflawni rhaglen wedi'i blaenoriaethu o brosiectau cynnal a chadw wedi'u cynllunio a gwaith ataliol, er mwyn gwella asedau ysgolion ac asedau nad ydynt yn asedau ysgolion, ar sail y cyllid sydd ar gael

Yr Economi a Lle

Parhaus

Cynllun Cyflawni Yr Economi a Sgiliau

  • Cefnogi 1000 o bobl ifanc i wella'u llythrennedd trwy Sialens Ddarllen Genedlaethol yr Haf

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

Cefnogi 1,000 o bobl ifanc i wella’u llythrennedd trwy Sialens Ddarllen Genedlaethol yr Haf

Strategaeth Gymunedol a Llesiant

  • Cynnal adolygiad systemau llawn ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned, er mwyn sicrhau bod systemau’r gwasanaeth yn darparu profiad o'r ansawdd gorau i'n cwsmeriaid

Cymunedau a Llesiant

Ch1: Cytuno ar gwmpas ail-ddylunio’r gwasanaeth

Ch2: Dechrau ail-ddylunio

Ch4: Cymeradwyo mesurau perfformiad

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Nifer y trigolion sydd wedi cofrestru gyda rhaglen Swyddi a Sgiliau Torfaen yn Gweithio

750 o drigolion wedi cofrestru gyda rhaglen Swyddi a Sgiliau Torfaen yn Gweithio

  • O'r rheiny sydd wedi cofrestru gyda rhaglen Swyddi a Sgiliau Torfaen yn Gweithio, y ganran a gefnogwyd i gael swydd

30% o'r rheiny sydd wedi cofrestru wedi cael cefnogaeth i gael swydd

  • Canran y rheiny sydd wedi cofrestru ar raglen Swyddi a Sgiliau Torfaen yn Gweithio sydd wedi cael cefnogaeth i gael swydd AC sydd wedi cadw eu swydd ar ôl 6 mis

25% o'r rheiny a gofrestrodd wedi cael cefnogaeth i gael swydd ac wedi cadw eu swydd ar ôl 6 mis

 

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 2

Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallant ffynnu

 

Amcan Llesiant 2
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal / Cynllun Datblygu Plant a Phobl Ifanc

  • Sicrhau bod o leiaf 86% o'r plant yr ydym yn gofalu amdanynt yn cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

86% o blant wedi eu lleoli gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol erbyn Mawrth 2026

  • Sicrhau bod cyfathrebu cydweithredol (yn seiliedig ar gryfderau, dull gweithredu sydd â ffocws ar ganlyniadau) yn cael ei sefydlu ar draws y gwasanaeth, fel bod ymarfer yn parhau i ddatblygu a bod penderfyniadau diogel yn cael eu gwneud i effeithio ar y boblogaeth o Blant sy'n Derbyn Gofal a'r llwyth gwaith cyffredinol

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

100% o staff wedi'u hyfforddi erbyn Mawrth 2026

  • Lleihau nifer y plant rydym yn gofalu amdanynt, yn ddiogel, er mwyn cyflawni ein huchelgais i gael cyfradd sydd gywerth â'r cyfartaledd cenedlaethol neu'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol erbyn 2028/29

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

< cyfartaledd cenedlaethol o 331

  • Adolygu effaith Strategaeth Lleihau Plant sy'n Derbyn Gofal a’i datblygu yn ôl yr angen

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Strategaeth wedi'i hadolygu a'i datblygu yn ôl yr angen erbyn Mawrth 2026

  • Lleihau nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu lleoli mewn gofal preswyl y byddai eu hanghenion yn cael eu diwallu orau mewn lleoliad maethu

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Gostyngiad ar ffigyrau diwedd-blwyddyn 24/25

  • Adolygu a datblygu ystod eang o ddarpariaeth/lety i Blant sy'n Derbyn Gofal na ellir diwallu eu hanghenion mewn gofal maeth, er mwyn cyflawni ein dyletswydd o ran digonolrwydd a lleihau'r elw mewn gofal

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Parhau i adolygu a datblygu, yn unol ag amserlenni, fel y nodir yn agenda dileu elw o ofal Llywodraeth Cymru erbyn 2027 ac yn unol â'n strategaeth ar gyfer comisiynu lleoliadau.

Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad / Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru

  • Cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cael cymorth trwy weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol, fel Hwb Torfaen a Chynghorau Cymuned

Y Gwasanaeth Ieuenctid

Cefnogi 350 o bobl ifanc yn ystod 2025/26

Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae Torfaen

 

  • Parhau i weithio gyda'r gymuned ac ysgolion i deilwra'r ddarpariaeth chwarae yr ydym yn ei chynnig at anghenion y gymuned/ysgolion

Y Gwasanaeth Chwarae

Cyflwyno dros 100 o brosiectau gwahanol sy'n gysylltiedig â chwarae i gymunedau ac ysgolion bob blwyddyn

 

1,600 o ddisgyblion yn rhan o brosiectau sy'n gysylltiedig â chwarae mewn ysgolion, bob blwyddyn

 

4,500 yn manteisio ar ddarpariaethau chwarae cymunedol, bob blwyddyn

  • Darparu pecynnau cymorth chwarae i blant a phobl ifanc ag angen cymorth ychwanegol

Y Gwasanaeth Chwarae

Cyflwyno 200 o brosiectau chwarae bob blwyddyn gan gynnig chwarae ar benwythnosau a darpariaeth seibiant a gwyliau, erbyn Mawrth 2026

Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

  • Hybu Prydau Ysgol am Ddim mewn Ysgolion Cynradd ymhlith y rheiny sy'n gymwys, er mwyn cyrraedd 75%

Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau

75% yn cael prydau ysgol gynradd erbyn Mawrth 2026

Strategaeth

Ymddygiad

Gwrthgymdeithasol

  • Canran yr holl bobl ifanc ag angen atal ac ymyrraeth arnynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi cael cymorth i adael y broses gyda chanlyniad cadarnhaol.

Cymunedau a Llesiant

90% o bobl ifanc wedi cael canlyniad cadarnhaol

  • Canran y plant sydd ddim yn mynd nôl i mewn i'r system ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn 6 mis ar ôl cael cymorth 

85% o blant ddim yn mynd nôl i mewn i'r System Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o fewn 6 mis

  • Bydd canran y teuluoedd sydd wedi adsefydlu'n llwyddiannus o dan gynlluniau Adsefydlu y DU, ac sydd ddim angen cymorth ychwanegol ar ôl 12 mis, wedi cynyddu

Adsefydlwyd 95% o deuluoedd yn llwyddiannus ac nid oes angen cymorth ychwanegol arnynt

Fforymau Ieuenctid ac Ymgysylltu

  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i roi cyfleoedd iddynt i fod yn rhan o benderfyniadau/polisïau/strategaethau'r Cyngor e.e. Diwrnodau Meddiant a Fforymau Ieuenctid

Cyfathrebu, Etholiadau ac Argyfyngau Sifil Posibl

Yn parhau trwy gydol 2025/26

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 3

Byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal cynnar sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus

Amcan Llesiant 3
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Cymorth gyda'r Dreth Gyngor a

a Budd-daliadau

  • Sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y budd-daliadau uchaf sydd ar gael iddynt

Cyfarwyddwr Strategol - Adnoddau

Rhoi cyngor trwy atgyfeiriadau fel y bo'n briodol

  • Gweinyddu Budd-daliadau Tai yn gywir yn unol â rheoliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau (yn cael ei arwain gan y galw)

I'w adolygu ar ddiwedd y flwyddyn, gan y bydd yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi cael ei gasglu erbyn hynny a beth yw'r balans wrth gau mewn perthynas â'r dyledion.

  • Dyfarnu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn unol â pholisi perthnasol y Cyngor

Fel uchod

  • Gweinyddu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn effeithlon (yn cael ei arwain gan y galw)

Fel uchod

Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol

  • Rhoi Prydau Ysgol am Ddim 

Fel uchod

  • Dyfarnu grantiau gwisg ysgol

Fel uchod

  • Dyfarnu taliadau gwarcheidiaeth/mabwysiadu

Fel uchod

  • Cynnal asesiadau profion modd gofal cymdeithasol

Fel uchod

Prydau Ysgol

Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

  • Gweini cyfanswm o 702,000 o brydau maethlon i ddisgyblion cynradd

Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau

Gweini 702,000 o brydau bwyd i ddisgyblion cynradd erbyn Mawrth 2026

Cynllun Datblygu Lleol

  • Sicrhau tai fforddiadwy trwy'r system gynllunio

Yr Economi a Lle

Prosiect Aml-flwyddyn erbyn Mawrth 26

Strategaeth Gofal Cartref

 

  • Adolygu'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol i ategu at wasanaethau gofal uniongyrchol neu eu disodli, er mwyn cefnogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth a dod yn fwy annibynnol.

Gwasanaethau Oedolion

Mawrth 2026

  • Datblygu rhaglen o ymyriadau i recriwtio gweithwyr Gofal yn Nhorfaen a'u cadw, er mwyn galluogi gweithlu sefydlog sy'n gallu darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel

Monitro'r gweithlu’n fisol

  • Gwerthuso Tîm Therapi Galwedigaethol Integredig Torfaen ac ystyried ei effeithiolrwydd, er mwyn sicrhau bod y model yn darparu canlyniadau o ansawdd uchel yn y ffordd fwyaf effeithiol

Cwblhau erbyn Mawrth 2026

  • Gweithredu'r System Rheoli Gofal newydd (Cysylltu Gofal) Erbyn Ionawr 2026

Cerrig milltir yn unol â'r Cynllun Gweithredu. Unwaith y bydd contract wedi'i ddyfarnu. (Ion 25)

 

Cwblhau erbyn Ionawr 26

Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

  • Ni ddylai nifer yr achosion sydd ar agor o fewn Gwasanaethau Oedolion fod yn fwy na 4200

Gwasanaethau Oedolion

<4,200 o achosion ar agor o fewn Gwasanaethau Oedolion

  • Nifer y cysylltiadau newydd i oedolion a gafwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn lle rhoddwyd cyngor neu gymorth (Targed Blynyddol)

3,600 o gysylltiadau newydd lle rhoddwyd cyngor neu gymorth

  • Canran yr asesiadau cychwynnol a gwblhawyd gyda chanlyniad y cyswllt yn golygu dim ymyrraeth statudol bellach ar ôl yr asesiad cymesur

60% o’r asesiadau cychwynnol a gwblhawyd gyda chanlyniad y cyswllt yn golygu dim ymyrraeth statudol bellach ar ôl yr asesiad cymesur

  • Canran yr asesiadau cychwynnol a gwblhawyd lle gellir diwallu anghenion mewn ffyrdd eraill heblaw gofal a chymorth (gan gynnwys Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth)

85% o’r asesiadau cychwynnol a gwblhawyd wedi nodi y gellir diwallu anghenion mewn ffyrdd eraill heblaw gofal a chymorth

  • Canran yr atgyfeiriadau gan y tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth sy'n symud ymlaen i ail-alluogi

15% o atgyfeiriadau gan y tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn symud ymlaen i ail-alluogi

  • Ddylai nifer yr Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd a geir gan y Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ddim bod yn fwy na 1,300

Y Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn cael 1,300 o Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd

  • Nifer o Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd a aeth ymlaen i atgyfeiriad gofal cymdeithasol i oedolion

425 Hysbysiad Diogelu'r Cyhoedd wedi mynd ymlaen i atgyfeiriad gofal cymdeithasol i oedolion

Ail-alluogi Integredig

  • Canran y bobl a gwblhaodd eu hail-alluogi o fewn 6 wythnos.

80% o bobl wedi cwblhau eu hail-alluogi o fewn 6 wythnos

  • Canran y bobl sy'n cwblhau rhaglen y gwasanaeth ail-alluogi y mae eu hanghenion wedi cynyddu

15% o bobl sy'n cwblhau'r gwasanaeth â’u hanghenion wedi cynyddu

  • Canran y bobl sy'n cwblhau rhaglen y gwasanaeth ail-alluogi y mae eu hanghenion wedi'u cynnal

20% o bobl sy'n cwblhau'r gwasanaeth â’u hanghenion wedi'u cynnal

  • Canran y bobl sy'n cwblhau rhaglen y gwasanaeth ail-alluogi y mae eu hanghenion wedi lleihau neu wedi’u lliniaru

65% o bobl sy'n cwblhau'r gwasanaeth â’u hanghenion wedi lleihau neu’u lliniaru

Ymyrraeth Gynnar ac Atal

  • Canran y grwpiau cymunedol a gefnogir sy'n weithgar ar Lwyfan Cysylltu (h.y. yn defnyddio'r Llwyfan Cysylltu yn rheolaidd)

Cymunedau a Llesiant

50% o’r grwpiau cymunedol a gefnogir yn weithgar ar Lwyfan Cysylltu (h.y. yn defnyddio'r Llwyfan Cysylltu yn rheolaidd)

  • % y cwsmeriaid o'r hwb Ymyrraeth Gynnar ac Atal sy’n cael cynnig Cynnig Cymorth Cymunedol priodol

70% o gwsmeriaid o'r hwb Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn cael cynnig Cynnig Cymorth Cymunedol priodol

  • Amser ar gyfartaledd y mae Cysylltwyr yn ei dreulio yn cefnogi cwsmer

10 wythnos

  • Nifer y neuaddau cymunedol sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor neu gymorth ychwanegol sy'n bodloni'r blaenoriaethau llesiant cymunedol a nodwyd.

10 neuadd gymunedol yn rhoi gwybodaeth, cyngor neu gymorth ychwanegol sy'n bodloni'r blaenoriaethau llesiant cymunedol a nodwyd

Grant

Cymorth Tai

  • Ychwanegu 10 uned tai â chymorth ychwanegol ac ail-alinio darpariaeth llety â chymorth i leihau'r niferoedd sydd mewn perygl o ddigartrefedd

Cymunedau a Llesiant

10 uned tai â chymorth ychwanegol wedi eu darparu ar gyfer y rheiny sydd mewn perygl o ddigartrefedd erbyn Mawrth 2026

  • Atal digartrefedd mewn o leiaf 50% o achosion lle mae yna risg o ddigartrefedd

atal <50% o achosion o ddigartrefedd

  • Canran yr aelwydydd sydd wedi'u lleoli mewn llety dros dro am 6 mis neu fwy ar ddiwedd pob chwarter

<20% o aelwydydd wedi'u lleoli mewn llety dros dro am 6 mis neu fwy

  • Yr amser, ar gyfartaledd, y mae’n ei gymryd i symud ymlaen o lety dros dro (teuluoedd)

260 diwrnod

  • Yr amser, ar gyfartaledd, y mae’n ei gymryd i symud ymlaen o lety dros dro (unigolion)

100 diwrnod

  • Canran y cartrefi newydd a adeiladir sy'n fforddiadwy (Mesur Blynyddol)

30% o'r cartrefi newydd a adeiladir yn fforddiadwy

Deddf Tai 2004

Deddf Tai (Cymru) 2014

Cynllun Lesio Cymru

  • Byddwn yn adnabod trigolion ac yn eu hamddiffyn rhag risgiau a pheryglon posibl i iechyd a diogelwch sy'n deillio o ddiffygion mewn eiddo preswyl, er mwyn sicrhau bod tai yn iachach ac yn ddiogel i fyw ynddynt

Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd

Erbyn Mawrth 2026

Grant Gwydnwch Bwyd y Gronfa Ffyniant Gyffredin

  • Cyflawni Strategaeth Fwyd a Chynllun Gweithredu ar gyfer y flwyddyn 2025-2026 gan gynnwys rhaglen wedi'i thargedu o gyngor busnes/arloesi a chymorth gyda chyllid ar gyfer y sector bwyd/amaethyddiaeth/amaeth-dechnoleg

Yr Economi a Lle

Erbyn Mawrth 2026

 

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 4

Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn ffisegol

Amcan Llesiant 4
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Cefnogi 1800 o gwsmeriaid y flwyddyn i gael mynediad at TGCh a Chymorth Digidol yn ein llyfrgelloedd/hybiau

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

1,800 o gwsmeriaid

  • Cynyddu nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn tuag at darged Llywodraeth Cymru o 3600 fesul 1000 o'r boblogaeth.

2,930 o ymweliadau fesul 1,000 o'r boblogaeth

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Adolygu'r holl gyfleusterau cymunedol sy'n eiddo i CBST er mwyn sicrhau bod Strategaeth Llesiant Cymunedol y Cyngor a'i gynlluniau buddsoddi ar gyfer y dyfodol yn cyd-fynd yn llawn, a bod opsiynau ar gyfer cyflwyno gwasanaethau yn y gymuned yn cael eu harchwilio'n llawn.

Cymunedau a Llesiant

'Ch1: Adolygu'r trefniadau a'r sefyllfa ar hyn o bryd

Ch2: Archwilio modelau cyflawni a pharatoi papur opsiynau

Ch3: Cyflwyno opsiynau ac argymhellion i'r arweinwyr

  • Nifer sydd wedi Cofrestru o dan Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyrsiau Sgiliau Hanfodol, yn gronnus ar gyfer Tymhorau 1, 2 a 3 Blwyddyn Academaidd 25/26

900 wedi cofrestru

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Nifer y clybiau chwaraeon y gweithiwyd gyda nhw i ddatblygu eu cyfleusterau a darparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer y Gymuned.

40 o glybiau chwaraeon

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Nifer y cyfleusterau chwaraeon mewn ysgolion sydd ar gael at ddefnydd y gymuned y tu allan i oriau ysgol

15 ysgol

Cynllun

Teithio Llesol

 

 

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Bargen Ddinesig

Prifddinas Ranbarth Caerdydd

 

  • Cyflawni cyfres o gynlluniau Teithio Llesol yn 25/26 yn unol â'r Cynllun Cyflawni Teithio Llesol a gymeradwywyd (manylion i'w rhoi cyn gynted ag y byddwn wedi cael cadarnhad am geisiadau llwyddiannus am gyllid)

Priffyrdd, Hinsawdd ac Ynni

Dyddiad cwblhau'r cynlluniau Mawrth 26. Cerrig milltir i'w cofnodi pan fydd y rhaglen gyflawni ar gyfer pob cynllun wedi'i chwblhau, yn amodol ar gyllid.

  • Cyflawni prosiectau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (manylion i'w rhoi cyn gynted ag y byddwn wedi cael cadarnhad am geisiadau llwyddiannus am gyllid)

Dyddiad cwblhau Mawrth 2026

  • Cydweithio ar draws Prifddinas Ranbarth Caerdydd i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan nodi effeithiau lleol a hyrwyddo anghenion Torfaen.

Erbyn Mai 2026

  • Asesu effaith y prosiect 20mya a gwneud unrhyw newidiadau yn unol â 'Chanllawiau Gosod Terfynau Cyflymder Lleol' y mae disgwyl i Lywodraeth Cymru eu cyhoeddi yn 25/26.

Erbyn Mawrth 2026

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 5

Byddwn yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i'r amgylchedd lleol

Amcan Llesiant 5
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Cynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystemau 2019

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i weithredu'r Cynllun Rheoli ar gyfer Gwarchodfa Natur Leol Blaensychan er mwyn gwella mynediad at natur, cyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael â newid hinsawdd, a gwella bioamrywiaeth

Gweithrediadau'r Amgylchedd

Erbyn Mawrth 2026

  • Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn uchafu cyfleoedd am nawdd i wella'r amgylchedd naturiol lleol a chyflwr parciau lleol a mannau awyr agored cyhoeddus

Strategaeth yr Amgylchedd

Erbyn Mawrth 2026

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

  • Byddwn yn datblygu ac yn cyflawni Cytundeb Partneriaeth aml-flwyddyn gyda Bron Afon ar gyfer cynnal a chadw tir, gan sicrhau bod strydoedd a mannau gwyrdd yn cael eu rheoli'n gynaliadwy i gefnogi anghenion cymunedau yn Nhorfaen

Gweithrediadau'r Amgylchedd

Erbyn Mawrth 2026

Ucheldiroedd Cydnerth De-ddwyrain Cymru

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

Cynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystemau 2019

  • Byddwn yn adolygu'r cynnydd o ran cyflawni'r Prosiect Ucheldir Cydnerth ac yn archwilio cyfleoedd am gyllid yn y dyfodol i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni (gwella rheoli tir, ansawdd dŵr, pori, bioamrywiaeth a storio carbon ar Ucheldir De-ddwyrain Cymru)

Strategaeth yr Amgylchedd

Erbyn Mawrth 2026

  • Byddwn yn gweithredu Cynlluniau Rheoli newydd ar gyfer parciau trefol er mwyn gwella cyfleusterau, a gwarchod a gwella mannau gwyrdd

Erbyn Mawrth 2026

Cynllun Gweithredu'r Argyfwng Hinsawdd

a Natur

 

Prosiect Apollo

  • Cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni ar safleoedd CBST trwy Brosiect Apollo i leihau'r ynni a ddefnyddir, costau ac allyriadau carbon

Priffyrdd, Hinsawdd ac Ynni

Erbyn Mawrth 2026

  • Gweithredu Cynllun Gweithredu Fflyd Sero-net a rhaglen a arweinir gan ddata er mwyn lleihau allyriadau'r fflyd a chynyddu arbedion

Erbyn Medi 2025

  • Darparu mwy o fannau gwefru cerbydau trydan ar safleoedd y Cyngor ar gyfer y fflyd, cymudwyr a'r cyhoedd yn ehangach (yn amodol ar gyllid)

Erbyn Mawrth 2026

  • Yn amodol ar adnoddau, dechrau cyflawni'r camau gweithredu a nodir ar gyfer y Cyngor yng nghynllun gweithredu tymor byr i ganolig y Cynllun Ynni Ardal Leol (2024-30)

Gweithgaredd Aml-flwyddyn

 

Cynllun Gweithredu Ailgylchu a Gwastraff

 

  • Bwrw ymlaen â'n cynlluniau i adeiladu cyfleuster didoli deunyddiau wedi'u hailgylchu newydd, a'r gwaith i ddechrau o fewn yr amserlen gynllunio

Ailgylchu a

Gwastraff

Erbyn Tachwedd 2025

  • Byddwn yn cynnal gweithgareddau addysgu am wastraff a gorfodi i godi ymwybyddiaeth trigolion o arferion ailgylchu cywir. Pan fo angen, byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol yn erbyn y rheiny sy'n troseddu'n barhaus.

Erbyn Gorffennaf 2025

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 6

Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i gynnal busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog egin fusnesau a busnesau newydd

Amcan Llesiant 6
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Strategaeth Rheoli Asedau

  • Rheoli'r portffolio eiddo masnachol i gefnogi twf busnesau bach a chanolig a sicrhau bod cymaint â phosibl o'r eiddo'n cael eu defnyddio

Yr Economi a Lle

Erbyn Mawrth 26

  • Cwblhau'r Strategaeth Rheoli Asedau 5-Mlynedd newydd (2024/29) a gweithredu Blwyddyn Gyntaf Cynllun Cyflawni/Buddsoddi'r Strategaeth Rheoli Asedau

Erbyn Mawrth 26

Cynllun Cyflawni

 Yr Economi a Sgiliau

 

  • Creu Prosbectws Buddsoddi i ddenu buddsoddiad newydd a hyrwyddo argaeledd/gwasanaethu tir diwydiannol newydd a/neu dir llwyd

Yr Economi a Lle

Erbyn Mawrth 26

  • Symud ymlaen â chynigion amlinellol ar gyfer safle cyflogaeth gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi blaenllaw o amgylch Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Prosiect aml-flwyddyn erbyn 28 Rhagfyr

  • Gweithredu'r achos busnes aml-flwyddyn er mwyn i Ganolfan Arloesi Busnes Springboard ddod yn hwb mewn rhwydwaith o fannau arloesi ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy'n dod i'r amlwg

Prosiect aml-flwyddyn erbyn Mawrth 26

  • Gweithredu cam nesaf porth busnes Cyswllt Busnes Torfaen fel y pwynt cyswllt unigol ar gyfer siwrneiau cwsmeriaid busnes, gan gynnwys cyflawni Fframwaith Ymgysylltu â Busnesau Torfaen

Erbyn Mawrth 26

Y Cynllun Datblygu Lleol

  • Ymgysylltu'n ymatebol â busnesau, cymunedau a thrigolion mewn perthynas â cheisiadau cynllunio a gwneud penderfyniadau effeithlon ac effeithiol yn unol â'r CDLl

Yr Economi a Lle

Prosiect Aml-flwyddyn erbyn Mawrth 26

Cynllun Cyflawni

Yr Economi a Sgiliau

  • Nifer y Busnesau sydd wedi cofrestru ar gwrs hyfforddiant masnachol

Cymunedau a Llesiant

50 o fusnesau wedi cofrestru ar gwrs hyfforddiant masnachol

Cynllun Cyflawni

Yr Economi a Sgiliau

  • Cefnogi 25 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd i bobl ifanc

Tîm Ysbrydoli

Cefnogi 40 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd i bobl ifanc erbyn Mawrth 26

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 7

Byddwn yn hybu ffyrdd iachach o fyw yn Nhorfaen i wella lles meddyliol a chorfforol

Amcan Llesiant 7
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Fframwaith ar gyfer sefydlu dull ysgol gyfan
ar gyfer lles emosiynol a meddyliol
Y Cynllun Sirol
Egwyddorion Marmot

  • Cefnogi Arweinwyr Gweithredu ac 8 ysgol newydd i gael mynediad at Offeryn Hunanwerthuso'r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Emosiynol a Llesiant Meddyliol

Ysgolion Iach

Recriwtio 8 ysgol newydd i ddefnyddio offeryn hunanwerthuso'r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer iechyd emosiynol a llesiant meddyliol erbyn Mawrth 2026

Cynllun Gwasanaeth Gorfodi'r Gyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Polisi Gorfodi a Chydymffurfiaeth Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd

  • Byddwn yn cynnal arolygiadau ac ymyriadau hylendid bwyd mewn sefydliadau bwyd, ac yn cymryd camau gorfodi priodol lle nodir achosion sydd ddim yn cydymffurfio, er mwyn sicrhau diogelwch bwyd

Diogelu Bwyd ac Iechyd

Erbyn Mawrth 26

  • Byddwn yn cynnal arolygiadau safonau bwyd ac ymyriadau ar gyfer busnesau bwyd i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn gywir o ran yr hyn mae'n ei ddweud ydyw.

Trwyddedu a Safonau Masnach

Erbyn Mawrth 26

Polisi Gorfodi a Chydymffurfiaeth Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd

  • Byddwn yn amddiffyn pobl sydd mewn perygl o niwed rhag pobl sy’n gwerthu fêps yn anghyfreithlon trwy ymyrryd i sicrhau bod masnachwyr sy'n eu cyflenwi yn cydymffurfio â chyfreithiau perthnasol

Trwyddedu a Safonau Masnach

Erbyn Mawrth 26

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Cynyddu benthyciadau o'r stoc lyfrau iechyd a llesiant, gan gynnwys casgliadau Darllen yn Well fel eu bod 5% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

Cynnydd o 5% yn y llyfrau iechyd a llesiant sy'n cael eu benthyg

  • Dylunio a gweithredu system archebu gydlynol ar draws holl feysydd 2G a 3G Torfaen

Cymunedau a Llesiant

'Ch1: Sicrhau ymrwymiad gan bartneriaid allweddol

Ch1: Cytuno ar gwmpas y prosiect

Ch2 a Ch3: Ymgymryd â gwaith dylunio system (dichonoldeb, cost a chynllun gweithredu)

Ch4: cyflwyno canfyddiadau i'w gweithredu yn 26/27

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru

  • Cynyddu'r cynnig o opsiynau llesiant holistaidd i bobl ifanc trwy weithgarwch gwaith ieuenctid, dan arweiniad pobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac wedi'u dylunio ganddynt

Y Gwasanaeth Ieuenctid

2,000 o bobl ifanc yn cael cynnig opsiynau llesiant holistaidd erbyn Mawrth 2026

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 8

Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a'n treftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac ymweld ag ef

Amcan Llesiant 8
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Uwchgynllun Y British

  • Dechrau gwaith (fesul cam) yn rhan o'n nod aml-flwyddyn i fynd â Nant Blaengafog ar safle'r British allan o gwlfertau ac i mewn i sianel newydd fel cam cyntaf Uwchgynllun y British

Yr Economi a Lle

'Ch1 Cychwyn cam 1 y gwaith - gosod y pwll. 

 

Ch4 Cwblhau cam 1 y gwaith - gosod y pwll.

  • Symud ymlaen â cham nesaf y cynigion adfywio ar gyfer safle'r British ar ôl cytuno ar Benawdau'r Telerau gydag IDRIS

Erbyn Mawrth 26

Strategaeth
Yr Economi a Sgiliau

  • Cefnogi Bwrdd Tref Cwmbrân i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cytuno ar Cwmbrân y Dyfodol (Tref Tymor Hir) a hwyluso'r gwaith o gyflawni Blwyddyn Gyntaf y Cynllun Buddsoddi

Yr Economi a Lle

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd y rhaglen yn parhau.  Methu â gosod targed nes bydd y prosbectws yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth.

  • Datblygu cynlluniau cyflawni tair-blynedd cychwynnol ar gyfer pob un o Gynlluniau Creu Lleoedd Torfaen (Blaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân) a dechrau eu gweithredu

'Ch1 Datblygu cynllun cyflawni tair-blynedd a chadarnhau prosiectau strategol. 

Ch3 Ymchwilio a nodi cyllid i symud ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Creu Lleoedd

  • Gweithredu prosiectau Cronfa Ffyniant Bro Pont-y-pŵl i adfywio canol ein trefi ac annog economi gyda'r nos gyda mwy o ymwelwyr yn mwynhau lleoedd o ansawdd da i fwyta ac yfed

'Ch1 DCWW yn mabwysiadu'r garthffos gyfun a thendro ar gyfer y gwaith ar y Caffi a'r Maes Parcio

Ch2 Dechrau ar y gwaith adeiladu

Ch4 Mynd i dendr ar gyfer masnachfraint y Caffi (Caffi Mynedfa'r Parc)

  • Hyrwyddo Torfaen fel 'Cyrchfan', gan weithio gyda'n hatyniadau rhagorol i ymwelwyr er mwyn cynnig pecynnau deniadol ar gyfer ymwelwyr dydd a dros-nos sy'n cynnwys lleoliadau ar draws y Fwrdeistref

'Ch1 Gwerthuso llwyddiant y prosiectau a weithredwyd yn dilyn Gweithdai Twristiaeth Gymunedol Blaenafon.

Ch2 Comisiynu gwaith i symud y Cysyniad o Gyrchfan Torfaen ymlaen.

Ch4 Gweithredu prosiectau a nodwyd ar gyfer Cyrchfan Torfaen

Strategaeth Y Gamlas

  • Cyflawni cam cyntaf y cynllun gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu er mwyn gwella cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr lleol y Gamlas a dechrau adeiladu'r achos dros adfer y Gamlas

Yr Economi a Lle

Ch1 Gweithredu cynllun rheoli'r Gamlas fel y cytunwyd arno gan Grŵp Gweithrediadau'r Gamlas. 

Ch3 Cyflwyno digwyddiadau i wirfoddolwyr gan gynnwys gweithgareddau treftadaeth, hanes a bywyd gwyllt

Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl

  • Gweithredu cynllun busnes newydd ar gyfer Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl i wella'r niferoedd sydd â stondinau yno a chryfhau'r cynnig i drigolion lleol

Yr Economi a Lle

'Ch1 Gweithredu argymhellion ar ôl adolygu cynllun busnes Marchnad Dan Do          Pont-y-pŵl. 

 

Ch3 Gwerthuso llwyddiant y cynllun busnes newydd

Polisi Gorfodi a Chydymffurfiaeth Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd

Cynllun Gweithredu Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

  • Byddwn yn cynnal mentrau gwyliadwriaeth, mewn cydweithrediad â Gweithrediadau'r Amgylchedd, i ddod o hyd i'r rheiny sy'n tipio'n anghyfreithlon, ac yn cymryd camau gorfodi lle bo hynny'n briodol

Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd

Erbyn Mawrth 2026

Polisi Gorfodi a Chydymffurfiaeth Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

  • Byddwn yn asesu effaith bosibl ceisiadau penodol gan drigolion i gynnwys cyfyngiadau ychwanegol yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn yn Nhorfaen, ac yn llunio adroddiad i geisio penderfyniad

Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd

Erbyn Mawrth 2026

Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon 2021-2026

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

  • Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau a chymunedau i gyflwyno mentrau sy'n annog mwy o ffocws ar atal sbwriel a thipio anghyfreithlon, er mwyn diogelu'r amgylchedd lleol

Strategaeth yr Amgylchedd

Erbyn Mawrth 2026

Papur Gwyn Diogelwch Tomenni Glo (Cymru)

  • Datblygu Strategaeth a Chynllun Cyflawni ar gyfer Rheoli Tomenni Glo, er mwyn gwarchod a gwella'r amgylchedd lleol a chadw ein cymunedau'n ddiogel rhag risgiau yn y dyfodol, unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau.

Priffyrdd, Hinsawdd ac Ynni

Bydd hyn yn amodol ar gael Canllawiau gan LlC

Deddf Rheoli Traffig

  • Cyflwyno prosiect Car Camera i helpu i leihau parcio diofal, gwella mynediad i wasanaethau cyhoeddus a gwella'r briffordd gyhoeddus er mwyn sicrhau ei bod yn rhydd rhag rhwystrau, gan greu amgylchedd diogel i bawb.

Priffyrdd, Hinsawdd ac Ynni

Dyddiad gweithredu Ebrill 2025

Fferm Greenmeadow

  • Darparu gwasanaeth datblygu gwefan a dylunio ac adeiladu gwefan Fferm Greenmeadow cyn yr agoriad arfaethedig

Cyfathrebu, Etholiadau ac Argyfyngau Sifil Posibl

Erbyn diwedd Chwarter 1 2025/26

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 9

Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau

Amcan Llesiant 9
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2025/26

Gwasanaeth Cofrestryddion

  • Cofrestru 98% o enedigaethau o fewn 42 diwrnod

 

Cofrestryddion

98% o enedigaethau wedi'u cofrestru o fewn 42 diwrnod

  • Cofrestru 98% o enedigaethau marw o fewn 42 diwrnod

 

98% o enedigaethau marw wedi'u cofrestru o fewn 42 diwrnod

  • Cofrestru 95% o farwolaethau (lle nad oes angen crwner) o fewn 5 niwrnod pan fydd yr Archwilydd Meddygol yn hysbysu'r cofrestrydd fod y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth wedi'i chwblhau

95% o farwolaethau wedi'u cofrestru o fewn 5 niwrnod

Strategaeth Gymunedol

  • Sefydlu rhaglen wirfoddolwyr er mwyn gallu darparu'r Gwasanaeth Darllen i Mi, a fydd yn dod â manteision therapiwtig darllen ar y cyd i gwsmeriaid sydd wedi’u hynysu'n gymdeithasol ac yn agored i niwed.

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

Bydd cerrig milltir yn cynnwys hysbysebu a recriwtio, gwiriadau gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, hyfforddiant a mentora. Ar hyn o bryd, nid yw'r amserlenni ar gyfer cyflawni yn hysbys gan eu bod yn dibynnu ar waith ehangach ar draws y sefydliad mewn perthynas â gwirfoddoli - byddwn yn ychwanegu'r manylion unwaith y bydd wedi'i gadarnhau.

 

  • Darparu rhaglen o weithgareddau o'n llyfrgelloedd i ddarparu adnoddau a chyfleoedd dysgu sy'n meithrin cydberthnasau da rhwng y rheiny sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rheiny sydd ddim yn ei rhannu.

 

2 ddigwyddiad y flwyddyn gyda 30 yn bresennol ym mhob digwyddiad

Strategaeth Cwsmeriaid Digidol yn Gyntaf

  • Defnyddio darpariaeth porth LoRaWAN yn llwyddiannus i CBST, (i gefnogi'r defnydd o synwyryddion y cyfeirir atynt mewn adran arall yng nghynllun y gwasanaeth)

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

Ch1: Yn dibynnu ar gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin, cynllun y prosiect i'w gwblhau.

Ch2: gosod yr holl byrth.

Ch3: defnyddio'r synwyryddion (yn ddibynnol ar gyllid)

Ch4: Adroddiad y prosiect i'w gwblhau a chyda canfyddiadau a rennir.

  • Ystyried lleoliadau eraill yn y gymuned er mwyn darparu cymorth Gofal i Gwsmeriaid yn hyblyg, i roi sylw i angen a nodwyd a meithrin cydnerthedd cymunedol.

Dibyniaeth ar weithio seiliedig ar le (Cymunedau a Llesiant). Cerrig milltir i'w cadarnhau unwaith y sefydlir beth yw'r angen trwy waith y mae Cymunedau a Llesiant yn ei wneud gyda Chynghorau Cymuned a Thref.

  • Gwella Boddhad Cwsmeriaid (niwtral neu’n uwch) o fewn Gofal i Gwsmeriaid, i dros 85% o'r trafodion a arolygwyd.

>85%

  • Cynyddu sgoriau Ymdrech Cwsmeriaid (nid yw'n hawdd nac yn anodd, mae'n hawdd neu mae'n hawdd iawn) i dros 85%

>85%

  • Lleihau nifer y galwadau i "Galw Torfaen" ar gyfer 'Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodynnau Glas' lle mae pobl yn gadael yr alwad, i 2% o'r galwadau

<2% o alwadau wedi cael eu gadael ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodynnau Glas

  • Lleihau nifer y galwadau i "Galw Torfaen" ar gyfer 'Budd-daliadau' lle mae pobl yn gadael yr alwad, i 8% o'r galwadau

<8% o alwadau wedi cael eu gadael ar gyfer Budd-daliadau

  • Lleihau nifer y galwadau i "Galw Torfaen" ar gyfer y Dreth Gyngor lle mae pobl yn gadael yr alwad, i 8% o alwadau

>8% o alwadau wedi'u gadael ar gyfer pob galwad yn ymwneud â'r Dreth Gyngor

  • Cadw nifer y galwadau i "Galw Torfaen" lle mae pobl yn gadael yr alwad, ar gyfer pob gwasanaeth arall, ar 10%

<10% o alwadau wedi'u gadael ar gyfer pob gwasanaeth arall

  • Rheoli amser aros cyfartalog "Galw Torfaen" ar gyfer galwadau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodyn Glas i lai na 300 eiliad.

<300 eiliad o amser aros cyfartalog ar gyfer galwadau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodyn Glas

  • Rheoli amser aros cyfartalog "Galw Torfaen" ar gyfer galwadau yn ymwneud â Budd-daliadau ar 300 eiliad.

<300 eiliad o amser aros cyfartalog ar gyfer galwadau yn ymwneud â Budd-daliadau

  • Rheoli amser aros cyfartalog "Galw Torfaen" ar gyfer galwadau yn ymwneud â'r Dreth Gyngor ar 300 eiliad

<300 eiliad o amser cyfartalog ar gyfer Y Dreth Gyngor

  • Cadw amser aros cyfartalog "Galw Torfaen" ar gyfer galwadau 'pob Gwasanaeth arall' ar 360 eiliad.

<360 eiliad o amser cyfartalog ar gyfer pob gwasanaeth arall

Digidol, Data a Thechnoleg

  • Adolygu cynnwys y wefan i wella profiad/boddhad cwsmeriaid ar-lein a chefnogi amcanion strategaeth ddigidol 'Gwna fe ar-lein' ar gyfer hunanwasanaeth

Cyfathrebu, Etholiadau ac Argyfyngau Sifil Wrth Gefn

Erbyn Mawrth 2026

Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig