Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Ebrill 2025
Mae cynllun tai â chymorth newydd yng nghanol tref Pont-y-pŵl wedi croesawu ei drigolion cyntaf.
Roedd Tŷ Pearl ar Hanbury Road yn swyddfeydd, ond erbyn hyn mae wedi cael ei drawsnewid yn fflatiau modern sy’n cefnogi unigolion sydd wedi bod yn ddigartref neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd.
Mae'r gwaith ailwampio gwerth £3 miliwn, a wnaed gan Hedyn (Cartrefi Melin gynt), sy'n berchen ar yr adeilad, yn cynnwys 15 o fflatiau hunangynhwysol, wedi'u dodrefnu'n llawn, paneli solar ffotofoltäig i sicrhau effeithlonrwydd ynni, a datrysiadau gwresogi carbon isel arloesol.
Mae’n adeilad rhestredig Gradd II ac felly cafwyd gwaith hefyd i gadw ei nodweddion hanesyddol fel y grisiau, y drysau ac elfennau eraill.
Bydd yr elusen ddigartrefedd The Wallich yn cefnogi preswylwyr, y disgwylir iddynt aros yn Tŷ Pearl am hyd at chwe mis, tra byddant yn cael cymorth i symud i lety arall.
Bydd Hwb Cymorth Tai newydd, sy'n cael ei redeg gan The Wallich, hefyd ar gael ar y llawr gwaelod ac mae disgwyl iddo agor yn ddiweddarach eleni.
Bydd yr hwb yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ac yn lletya sawl asiantaeth, gan gynnwys tîm Tai y Cyngor, i helpu'r rheiny sy'n wynebu digartrefedd i gael mynediad at y cymorth a'r cyngor angenrheidiol.
Un o'r trigolion cyntaf i symud i mewn yw Anna-Marie Owens. Meddai: "Mae symud i mewn i Dŷ Pearl wedi newid fy mywyd, oherwydd mae wedi rhoi sefydlogrwydd i fi ac rwy'n gallu byw bywyd normal. Rydw i wedi bod yn ddigartref ers 4 blynedd ac mae wedi bod yn uffern, felly mae hyn wir yn mynd i newid fy mywyd."
Meddai Tracy Barrington, Rheolwr Gwasanaethau The Wallich yn Tŷ Pearl: "Mae The Wallich wedi bod yn gweithio gyda phobl sy'n cysgu ar y stryd, neu sydd wedi wynebu colli eu cartrefi, ers blynyddoedd lawer yn Nhorfaen bellach, felly rydyn ni’n yn falch iawn o fod yn rhan o ateb sy'n helpu pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i le diogel.
"Mae'r llety newydd o ansawdd gwych. Mae hynny'n bwysig iawn i wneud i’r bobl rydyn ni'n eu cefnogi i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo balchder dros eu cartref. Rydyn ni’n gwybod y bydd cartref diogel a sefydlog yn ysbrydoli ein preswylwyr i edrych ymlaen at ddyfodol cadarnhaol ac yn torri cylch dieflig digartrefedd - allwn ni ddim aros i groesawu a chefnogi pawb sy'n dod trwy'r drysau."
Meddai’r Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Wasanaethau Oedolion a Thai: "Mae'r datblygiad newydd hwn yn amlygu ymrwymiad y Cyngor i atal digartrefedd a chefnogi'r gymuned leol. Mae'n cyd-fynd ag uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth brin, yn para am gyfnod byr a ddim yn ailadrodd."
"Mae hyn yn adeiladu ar ein dull cyffredinol o fynd i'r afael â digartrefedd a’i liniaru, ar draws Torfaen, gan roi trigolion wrth galon ein gwasanaethau."
I gael rhagor o gymorth sy'n gysylltiedig â thai, cysylltwch â thîm cymorth tai Cyngor Torfaen ar 01495 766949, neu anfonwch neges trwy e-bost i TCBCPreventionHub@torfaen.gov.uk
Fel arall, gallwch lenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein yma: https://www.torfaen.gov.uk/cy/Housing/Housing-Support/Housing-Advice/Housing-Advice.aspx.