Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Chwefror 2025
Mae disgyblion o Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban ymhlith y rheiny a fydd yn elwa ar ddodrefn a roddwyd gan Lyfrgell Cwmbrân.
Ar y cyfan, bydd mwy na 125 o eitemau yn cael eu rhoi i 28 sefydliad gwahanol yr wythnos hon, wrth i waith i adnewyddu'r Llyfrgell ar Sgwâr Gwent, Cwmbrân, fynd rhagddo.
Gofynnodd staff Sant Alban, ym Mhont-y-pŵl, am sawl eitem ar gyfer llyfrgell newydd yr ysgol, gan gynnwys silffoedd, droriau, cadeiriau a byrddau coffi.
Meddai llyfrgellydd yr ysgol, Victoria Preece: "Bydd yr offer yn ein helpu i arddangos ein llyfrau a chreu man hamddenol lle gall plant ymlacio a mwynhau darllen.
"Rydyn ni'n gweld hyd at 350 o ddisgyblion yn ein llyfrgell bob wythnos trwy ein rhaglen gwella darllen Accelerated Reader, ac ymyriad darllen, felly bydd llawer o blant yn mwynhau'r eitemau."
Llwyddodd dwy ysgol uwchradd, dwy ysgol gynradd, Coleg Aspris i bobl ag anableddau dysgu, a mwy nag 20 o grwpiau cymunedol i gael dodrefn ac offer am ddim.
Meddai Stephanie Morgan, Uwch-lyfrgellydd Cyngor Torfaen: "Rydyn ni’n falch iawn fod yr eitemau hyn yn mynd i gael ail fywyd gyda sefydliadau mor werth chweil."
Mae disgwyl i Lyfrgell Cwmbrân fod ar gau am tua phedair wythnos ar gyfer y gwaith
ailwampio, a fydd yn cynnwys cyfleusterau digidol newydd, hwb gweithio ystwyth, llyfrgell i bobl ifanc ac ardaloedd ar gyfer iechyd, llesiant a chymorth cymunedol. Gweld y cynlluniau
I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r Llyfrgell yn ystod y cyfnod y bydd ar gau: https://www.torfaen.gov.uk/cy/Community-Wellbeing/Libraries/Libraries-mobilelibraryservice/Cwmbran-Library.aspx
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru gwerth £300,000 a £127,000 gan Gyngor Torfaen.
Mae'n dilyn buddsoddiad o £300,000 yn Llyfrgell Pont-y-pŵl yn 2011 a £100,000 ar gyfer Llyfrgell Blaenafon yn 2015.
Meddai’r Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol dros Lywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau: "Mae Llyfrgell Cwmbrân yn gyfleuster cymunedol gwych sy’n cael ei ddefnyddio'n dda gan filoedd o bobl bob mis yn barod.
"Rydyn ni’n gobeithio y bydd y buddsoddiad newydd hwn yn helpu i foderneiddio'r cyfleusterau a denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn dod i weld y cynlluniau pan fyddan nhw’n barod ac yn rhoi eu barn amdanyn nhw."