Hwyl Diwrnod y Llyfr

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 26 Chwefror 2025
WBD

I nodi Diwrnod y Llyfr eleni, mae Llyfrgelloedd Torfaen yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu cariad at lyfrau a darllen.

Fel rhan o'r dathliadau, bydd Llyfrgell Pont-y-pŵl yn mynychu digwyddiad ar thema Diwrnod y Llyfr ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn, 8 Mawrth, rhwng 10am a 3pm.

Anogir teuluoedd i wisgo fel eu hoff gymeriadau o lyfrau a bydd gweithgareddau gan gynnwys helfa lyfrau a chystadleuaeth i ddylunio clawr llyfr. Rhwng 12pm a 1pm, bydd y Llyfrgellydd Bettina Robinson yn arwain sesiwn amser stori am 30 munud.

Bydd y Beefy Boys poblogaidd hefyd yn cynnig byrgyrs yn stondin fwyd dros dro y farchnad.

Yn y cyfnod cyn Diwrnod y Llyfr ar ddydd Iau 6 Mawrth, cynhelir sesiynau amser rhigwm yn llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon a Thŷ Gwent, yng Nghwmbrân. Mae manylion llawn am yr holl ddigwyddiadau i'w gweld ar dudalen Facebook Llyfrgelloedd Torfaen.

Bydd staff y llyfrgell hefyd yn gweithio gydag ysgolion lleol yn ystod yr wythnos i gefnogi eu digwyddiadau Diwrnod y Llyfr.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol y Cyngor dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, am bwysigrwydd darllen yn ifanc, gan ddweud, "Mae darllen yn hanfodol i ddatblygiad plentyn a gall wella canlyniadau addysgol yn sylweddol.

"Drwy gefnogi digwyddiadau blynyddol allweddol fel Diwrnod y Llyfr, rydym yn cyd-fynd ag amcanion llesiant cynllun sirol y cyngor i godi cyrhaeddiad a rhagolygon ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc yn y dyfodol."

I ddarllenwyr newydd, mae'r Diwrnod Llyfr hwn yn amser perffaith i gofrestru gyda’ch llyfrgell leol. Gallwch ymuno am ddim – cliciwch ar y botwm isod.

Mae yna hefyd amrywiaeth eang o ddeunydd darllen ar gael am ddim ar-lein, gan gynnwys llyfrau sain a digidol. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen we Llyfrgelloedd Torfaen.

Ni fydd unrhyw ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Cwmbrân sydd ar gau dros dro ar gyfer gwaith adnewyddu.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiad Diwrnod y Llyfr ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, ewch i wefan Cyngor Torfaen.

Cofrestrwch
Diwygiwyd Diwethaf: 26/02/2025 Nôl i’r Brig