Hwyl hanner tymor

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 3 Mawrth 2025
Food and Fun (1)

Mwynhaodd dros 650 o blant o bob rhan o Dorfaen wythnos hanner tymor llawn hwyl, diolch i ymdrechion Gwasanaeth Chwarae Torfaen.

Cynhaliwyd y Gwersylloedd Bwyd a Lles newydd, a drefnwyd ar gyfer plant rhwng 5 ac 11 oed, mewn gwahanol ysgolion a lleoliadau cymunedol, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau gyda'r nod o hyrwyddo lles ac iechyd meddwl cadarnhaol.

Cymerodd y plant ran yn y Filltir Ddyddiol, gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi, gweithdai celf a chrefft, ac amrywiaeth o chwaraeon dan do ac awyr agored.

Un o uchafbwyntiau'r wythnos oedd y sesiynau Scoot FIT, a gyflwynwyd i 114 o blant, gan ddysgu cyngor ar ddiogelwch iddyn nhw, yn ogystal â datblygu eu hystwythder, eu cydbwysedd a’u dygnwch.

Roedd y sesiynau'n cefnogi Cynllun Teithio Llesol y cyngor, gan annog mwy o bobl i gerdded, reidio sgwter neu feicio i fannau ar draws y fwrdeistref.

Hwn oedd y tro cyntaf i wersylloedd hanner tymor ddarparu prydau iach, maethlon i bob plentyn, diolch i Arlwyo Torfaen a chyllid ychwanegol gan Food4Growth Torfaen.

Bydd y fenter hon nawr yn parhau ym mhob gwersyll hanner tymor yn y dyfodol, gan sicrhau bod plant yn derbyn cinio iachus.

Hefyd, cynhaliwyd cyfres o wersylloedd Chwarae a Gweithgareddau yn Stadiwm Cwmbrân, yn ogystal ag wyth sesiwn Chwarae a Seibiant dyddiol yn benodol ar gyfer plant ag anableddau ac anghenion ymddygiadol.

Canmolodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y fenter, gan ddweud, "Unwaith eto, mae'r darpariaethau chwarae hanner tymor wedi bod yn llwyddiant mawr.

"Diolch yn fawr iawn i'r gwirfoddolwyr a'r gweithwyr a roddodd o'u hamser yn ystod yr hanner tymor hwn i gefnogi'r plant yn eu cymunedau, gan roi profiad llawn hwyl iddyn nhw.

"Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r gweithwyr a gefnogodd blant sydd angen cymorth ychwanegol. Heb eu hymroddiad, byddai'n anodd cynnig yr un cyfleoedd i bawb."

Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Chwarae yn mapio'r darpariaethau ar gyfer haf llawn hwyl o chwarae. Mae recriwtio ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr ar agor, am fwy o wybodaeth e-bostiwch torfaenplay@torfaen.gov.uk neu ewch i'r tudalennau chwarae ar wefan Cyngor Torfaen.

Chwarae Torfaen

 

Diwygiwyd Diwethaf: 03/03/2025 Nôl i’r Brig