Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 12 Mawrth 2025
Cafodd tua 150 o ferched gyfle i holi panel o fenywod sy’n arwain yn y cyfryngau, busnes, peirianneg ac addysg yr wythnos hon.
Cafodd y digwyddiad yn Ysgol Croesyceiliog, yng Nghwmbrân, ddydd Mawrth, ei drefnu i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar Fawrth 8.
Roedd y panel yn cynnwys cyfarwyddwr creadigol Yeti Television a chyn-ddisgybl, Siân Price, Zoe Trigwell, Prif Swyddog Trigwell Cosmetics a Naomi Jenkins, Rheolwr Dylunio Morgan Sindall.
Trafododd y panel yr hyn a'u hysbrydolodd i ddilyn eu llwybrau gyrfa, sut maen nhw wedi goresgyn hunan-amheuaeth a'r hyn yr oeddent yn fwyaf balch ohono, cyn ateb cwestiynau gan ddisgyblion Blwyddyn 7 i 11.
Yn eu plith roedd y Brif Ferch Marcella Tomasulou a ddywedodd: "Roedd yn braf gweld menywod o wahanol gefndiroedd a chlywed pwy sydd wedi eu hysbrydoli. Mae wedi fy helpu gyda fy newisiadau gyrfa."
Ychwanegodd Poppy Takel, disgybl Blwyddyn 8: "Roedd hi'n braf iawn cael menywod o bob oed yn eistedd gyda'i gilydd - rwy'n teimlo bod yr awyrgylch yn rhywbeth y gallai merched ei ddeall."
Dywedodd y Pennaeth, Natalie Richards, a oedd hefyd yn aelod o'r panel: "Un o werthoedd ein hysgol yw uchelgais ac roeddem am ddefnyddio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i feithrin dyhead yn ein merched."
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Adfywio, Sgiliau a'r Economi, a oedd ar y panel hefyd ac sy'n gyn-ddisgybl: "Roeddwn i'n hapus iawn i gefnogi'r digwyddiad hwn a gobeithio ysbrydoli'r merched yn y gynulleidfa i ddefnyddio eu lleisiau i weiddi am y pethau a'r materion maen nhw'n teimlo'n angerddol amdanyn nhw."
Aelodau eraill y panel oedd Johanna Enzmann, Arweinydd Dysgu a Datblygu yn HWM Global, a Debbie Gliniary, arbenigwr ffitrwydd menywod a pherchennog Mammau Ffit.
Enwebwyd y merched yn y gynulleidfa i fynychu gan athrawon a phenaethiaid blwyddyn.
Ar ôl y digwyddiad, fe wnaeth tîm podlediad Croesycast yr ysgol gyfweld â nifer o aelodau'r panel am rifyn i'w rannu gyda gweddill yr ysgol.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gyrfa Cymru ac mae dathliad hefyd yn cael ei gynllunio i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion ym mis Tachwedd.