Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Mawrth 2025
Mae dros 200 o blant wedi arddangos eu brwdfrydedd dros ddawns mewn cystadleuaeth sydd â'r nod o ddathlu a hybu cyfranogiad yn y celfyddydau.
Yn y digwyddiad mwyaf hyd yma, cymerodd Tair ar ddeg ysgol gynradd ran yng nghystadleuaeth Rhaid i Dorfaen Ddawnsio ddydd Gwener, gyda disgyblion yn cystadlu mewn tri chategori - unawd, deuawd a grŵp.
Yn y cyfnod cyn y digwyddiad yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl, cynhaliodd ysgolion glyweliadau ac ymarfer dawns mewn gwahanol ddulliau, gan gynnwys dawnsio stryd, jazz, hip hop, bale, dawns gyfoes, a dawns fodern.
Dyfarnwyd tlysau i'r enillwyr ym mhob categori:
- Unigol: Yn y safle 1af roedd Gracie o Ysgol Gynradd Dewi Sant, yn yr 2il safle roedd Amelia o Ysgol Gynradd George Street ac yn y 3ydd safle roedd Scarlett o Ysgol Gynradd y Ddôl Werdd.
- Deuawd: Yn y safle 1af roedd Lauren ac Esme o Ysgol Gynradd Ponthir, yn yr 2il safle roedd Club Tropicana o Ysgol Panteg ac yn y 3ydd safle roedd Gabiya a Ruby o Ysgol Gynradd George Street.
- Grŵp: Aeth dawnswyr o Ysgol Gynradd George â’r wobr 1af, gyda Ysgol Treftadaeth Blaenafon yn 2il a Llantarnam yn cael y 3ydd safle.
Yn y prynhawn, cafodd disgyblion gyfle i ddysgu ddulliau dawns newydd mewn gweithdai dan arweiniad athrawon dawns talentog o Academi Charlotte May ym Mhont-y-pŵl, Kara Herridge o Prospect Dance yn Cwmbran, a Ross Escott o Drama Queens.
Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Cyngor Torfaen, Megan Parker, a weithiodd mewn partneriaeth â sefydliad dawns UDOIT i drefnu'r digwyddiad: "Mae'r gystadleuaeth ddawns yn tyfu bob blwyddyn gyda mwy o ysgolion a phlant yn mynychu. Mae'n wych gweld athrawon a phlant yn cymryd rhan mewn camp nad yw’n draddodiadol, fel dawns.
"Mae'n helpu disgyblion nid yn unig i ddatblygu eu doniau a magu hyder ond mae hefyd yn creu atgofion parhaol. Mae dawns, fel math o gyfranogiad chwaraeon yn yr ysgol, hefyd yn wych o ran hyrwyddo gweithgarwch corfforol a lles cyffredinol ymhlith disgyblion."
Roedd y digwyddiad yn cefnogi ymgyrch presenoldeb ysgol y cyngor, Ddim Yno, Colli Allan, sy’n dathlu'r profiadau a'r cyfleoedd amrywiol y mae plant yn eu cael pan fyddant yn yr ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Roedd ymroddiad a gwaith caled y disgyblion yn amlwg yn eu perfformiadau, a dylent fod yn falch iawn o gymryd rhan.
"Mae'r cyngor wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc i gael mynediad i addysg amgen a chynyddu eu lles trwy gefnogaeth i ysgolion. Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i'n plant, gan eu helpu i ffynnu yn academaidd ac yn bersonol."
Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd dawns yn Nhorfaen, cysylltwch â:megan.parker@torfaen.gov.uk