Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Mawrth 2025
Young carers action day

Mae gofalwyr ifanc o Dorfaen wedi cymryd rhan mewn noson o ddathlu i nodi Diwrnod Gweithredu Gofalwyr 2025.

Cymerodd 57 o ofalwyr ifanc ran mewn gweithgareddau yn Neuadd Bryn Hyfryd yng Nghwmbrân nos Fercher, gan gynnwys gweithdai celf a chrefft, a chawsant dreulio amser arbennig gyda chyfoedion i gryfhau eu cyfeillgarwch a’r gefnogaeth.

Mae'r digwyddiad blynyddol, a drefnir gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc y Cyngor, yn tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu. Mae hyn yn aml yn golygu sicrhau cydbwysedd rhwng gofalu a gwaith ysgol, a rheoli cyfrifoldebau’r cartref.

Roedd thema eleni, "Rhowch Seibiant i Mi " yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r straen sydd ar ofalwyr ifanc yn y cartref, yr ysgol a'r gwaith.

Cyflwynodd Izzy Pritchard, 18 oed, adolygiad o’r flwyddyn, gan dynnu sylw at y cyfleoedd gwahanol y mae’r gwasanaeth yn eu cynnig i ofalwyr ifanc, trwy gyfres o ffotograffau a fideos byr.

Meddai Chenile, sy’n 16 oed ac yn cefnogi ei mam a'i brodyr a'i chwiorydd iau: "Mae'n anodd iawn jyglo popeth. Weithiau mae’n fy ngorlethu, rhwng yr ysgol a gofalu am fy mam. Roedd heno yn gyfle i mi ymlacio a chael hwyl gyda ffrindiau."

Meddai Amelia, sy’n 12 oed ac sydd hefyd yn helpu i ofalu am ei mam: "Yn aml, rwy'n teimlo nad oes gen i ddigon o amser i fi fy hun. Roedd y gweithgareddau heno yn ffordd wych o ymlacio ac anghofio am fy nghyfrifoldebau am ychydig."

Mae gofalwr ifanc yn rhywun sy’n iau na 18 oed ac yn darparu, neu'n bwriadu darparu, gofal ar gyfer oedolyn neu blentyn anabl.

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn rhoi cefnogaeth barhaus i tua 180 o ofalwyr ifanc ar draws y Fwrdeistref, trwy gynlluniau gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar gefnogaeth un-i-un, grwpiau cymdeithasol, hyfforddiant a lleihau pryder, straen ac unigedd.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i godi ymwybyddiaeth a chefnogi, ac mae Chwarae Torfaen a Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen yn darparu clybiau chwarae ac ieuenctid wythnosol.

Mae'r bobl ifanc nawr yn edrych ymlaen at Wythnos Gofalwyr, rhwng 9 a 15 Mehefin, a Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 21 Tachwedd.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnal dwy ŵyl i ofalwyr ifanc ym mis Mehefin ac Awst, a bydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer teithiau preswyl a gweithgareddau yn ystod gwyliau'r haf.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr ifanc, gan sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

"Trwy roi cyfleoedd iddynt i ymlacio, dod i gyswllt â chyfoedion, a chael cefnogaeth wedi'i theilwra, rydyn ni’n ceisio lliniaru rhywfaint ar y straen maen nhw'n ei wynebu a hyrwyddo eu llesiant."

Am ragor o wybodaeth neu i ofyn am Asesiad Gofalwyr Ifanc, anfonwch neges trwy e-bost i  socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/03/2025 Nôl i’r Brig