Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19 Mawrth 2025
Mae'r cyngor wedi cael ei enwi fel un o'r cyflogwyr gorau gan y Financial Times.
Fe wnaeth tua 20,000 o weithwyr yn y DU gymryd rhan yn arolwg FT and Statista ar gyfer rhifyn cyntaf y rhestr flynyddol.
Gofynnwyd i weithwyr roi eu barn ar ddatganiadau am eu cyflogwr presennol mewn meysydd sy’n cynnwys amodau gwaith, potensial i ddatblygu a delwedd y cwmni.
Mae Cyngor Torfaen yn un o bedwar awdurdod lleol yn unig i ennill ei le ymhlith y 500 uchaf ar y rhestr.
Mae tua 4,000 o bobl yn gweithio i'r cyngor, y mwyafrif ohonynt yn byw yn y fwrdeistref.
Mae mentrau diweddar i gynyddu amrywiaeth yn y cyngor yn cynnwys rhaglen newydd i fyfyrwyr sy’n ymadael â’r ysgol a chynllun prentisiaethau sy’n anelu i annog pobl iau i wneud cais am swyddi.
Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth mwy na 330 o fyfyrwyr fynegi diddordeb yn rhaglen datblygu gyrfa'r cyngor a gafodd ei chyflwyno mewn ffeiriau gyrfaoedd mewn ysgolion.
Meddai Tina Hulme, Pennaeth AD: "Mae ein Strategaeth y Gweithlu yn dweud y byddwn yn gyflogwr o ddewis, gydag enw da ac arfer da o ran rheoli pobl.
"Rydym yn gyflogwr achrededig sy'n hyderus o ran anabledd, a’n nod yw sicrhau bod pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau.
"Rydym wedi datblygu grŵp Meddyliau Amrywiol, lle mae staff niwroamrywiol yn dod at ei gilydd i rannu profiadau niwroamrywiaeth mewn bywyd ac yn y gwaith, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gyrfa i bobl ifanc."
Mae Cyngor Sir Gaerhirfryn yn rhif 87 ar restr y Financial Times, Cyngor Sir Gaint yn rhif 331, Cyngor Dinas Glasgow yn rhif 431, a Chyngor Torfaen yn rhif 483.
I gael gwybodaeth am raglen datblygu gyrfa'r cyngor, cysylltwch â kerry.agate@torfaen.gov.uk
I gael gwybod am y swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i dudalen swyddi'r cyngor.
(Llun Ch-Dd – Stephen Vickers, Prif Weithredwr y Cyngor a Tina Hulme, Pennaeth Adnoddau Dynol)