Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Mawrth 2025
Poteli plastig, pecynnau creision, fêps, gwely ci, ac un esgid fach ar ei phen ei hun. Dim ond rhai o'r darnau o sbwriel a gasglwyd yn rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân flynyddol Torfaen.
Fe fu mwy na 70 o wirfoddolwyr yn taclo 10 man problemus, gan gasglu cyfanswm o 68 bag o sbwriel a 13 bag o ddeunyddiau i’w hailgylchu, a oedd yn cynnwys caniau, plastig a photeli gwydr.
Meddai Oliver James, Swyddog Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon y Cyngor: "Mae'n dal i fod yn bleser go iawn cwrdd â phobl angerddol sydd eisiau cadw'r amgylchedd yn lân.
"Eleni, fe fuon ni’n gweithio gydag aelodau o'r cyhoedd a busnesau fel Morrisons Cwmbrân sydd wedi rhoi gwobr ar gyfer y gystadleuaeth Gwanwyn Glân rydyn ni'n ei chynnal i ysgolion.
"Eu hymroddiad i gasglu sbwriel yw'r union beth sydd ei angen arnom gan fusnesau.
"Meddyliwch, petai llai o bobl yn gollwng sbwriel a mwy o bobl yn codi sbwriel, yna bydden ni’n byw mewn byd glanach a gwyrddach.
"Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i un o ddigwyddiadau Gwanwyn Glân, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld eto’r flwyddyn nesaf."
Cynhaliwyd ymgyrchoedd codi sbwriel Gwanwyn Glân Torfaen ym Mharc Pont-y-pŵl, Llynnoedd y Garn, canol tref Blaenafon, canol tref Pont-y-pŵl, Coedwig Springvale, Pentre Uchaf, Pyllau Llantarnam, Gwarchodfa Natur Leol Tirpentwys, Llyn Cychod Cwmbrân a chaeau Woodland Road.
Dewiswyd ambell i leoliad am eu bod yn addas i wirfoddolwyr â phroblemau symudedd.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd: "Ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch i bawb a fu'n cymryd rhan yn yr ymgyrch Gwanwyn Glân eleni. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i lendid Torfaen.
"Hoffem hefyd ddiolch i unigolion a grwpiau sy'n casglu sbwriel trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n gwerthfawrogi eich gwaith caled yn fawr iawn.
"Mae sbwriel yn salw, yn frwnt a gall fod yn beryglus i anifeiliaid. Does dim esgus dros daflu sbwriel gan fod gennym dros 700 o finiau sbwriel ar draws y Fwrdeistref.
"Rydyn ni bob amser yn hapus i gefnogi'r cyhoedd a grwpiau gydag ymgyrchoedd codi sbwriel, ac rydyn ni’n rhoi cyngor am ble i fenthyg offer, felly cofiwch gysylltu â ni os ydy hyn yn rhywbeth yr hoffech chi neu eich grŵp ei wneud."
Cynhelir Gwanwyn Glân Torfaen bob blwyddyn ac mae'n gyfle i drigolion, busnesau, ysgolion ac asiantaethau eraill gynnal ymgyrchoedd codi sbwriel i helpu i lanhau'r Fwrdeistref a chreu ardaloedd di-sbwriel.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol gyda'r Cyngor, cysylltwch ag Oliver.James@torfaen.gov.uk, ymunwch â'n grŵp Facebook arbennig, ewch i Cysylltu Torfaen neu ffoniwch 01495 762200.
Os hoffech gynnal eich ymgyrch codi sbwriel eich hun, gallwch gasglu offer am ddim o un o Hybiau Codi Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at amcanion llesiant y Cyngor sy’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur, trwy weithio tuag at gyflawni'r Cynllun Gweithredu Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon. Gallwch ddarllen rhagor am Gynllun Sirol y Cyngor yma.