Gwasanaeth Angladdau Torfaen
Os ydych chi neu eich anwyliaid yn poeni am gostau angladd, gellir cynnig gwasanaeth angladd sylfaenol i drigolion yn Nhorfaen.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys:
- Casglu’r ymadawedig o ardal yn Nhorfaen
- Arch argaen o dderw golau neu dywyll
- Ategolion ac addurniadau
- Gwisgo’r ymadawedig
- Un cyfle i weld yr ymadawedig yn y capel gorffwys (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm; drwy apwyntiad)
- Hers
- Gwasanaeth angladd urddasol
I gael mwy o wybodaeth a chostau, cysylltwch â Swyddfa Mynwent Llwyncelyn, ar 01495 766150 neu cemeteryenquiries@torfaen.gov.uk neu Michael G Ryan Son and Daughters Ltd, Trefnwyr Angladdau - Casnewydd, ar 01633 854522 neu newport@mgrfunerals.co.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Nôl i’r Brig