Clwb Busnes

Gwnewch 2025 y flwyddyn y byddwch chi’n dod yn rhan o’ch rhwydwaith busnes lleol ac yn cwrdd â busnesau tebyg yn ardal Torfaen.

Llais Busnes Torfaen yw clwb busnes ffyniannus Torfaen sy’n bod ers dros 22 mlynedd. Gyda thua deg a thrigain o aelodau o sectorau a meintiau amrywiol, o fusnesau cychwynnol newydd sbon i fusnesau bach a chanolig sydd wedi eu hen sefydlu, gyda phrofiad helaeth sy’n cael ei rannu yn y digwyddiadau rhwydweithio poblogaidd.

Mae’r clwb yn cael ei redeg gan bwyllgor o fusnesau, sy’n rhan annatod o’i lwyddiant. Mae’r aelodau yma o’r pwyllgor yn awyddus i wneud gwahaniaeth a llywio’r clwb i’r cyfeiriad y mae’r aelodau’n penderfynu. 

Tâl aelodaeth ar gyfer 2025

  • Aelodaeth Flynyddol - £50 + TAW
  • Talu Wrth Ddefnyddio - £20 + TAW

Mae aelodaeth flynyddol o 12 mis yn dechrau o’r dyddiad ymuno.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Iau 27 Mawrth 2025 yng Parkway Hotel & Spa, Cwmbran.

Archebwch eich lle nawr

Buddion Aelodaeth

Mae Llais Busnes Torfaen yn cynnig gwerth ardderchog am arian nifer o fanteision i chi a’ch busnes gan gynnwys:

  • Lle yn ein cyfarfodydd, sy’n digwydd bob chwarter.  Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys sesiynau rhwydweithio, cyngor cymorth busnes a siaradwyr gwadd ysbrydoledig
  • Cyfleoedd amrywiol i rwydweithio gyda digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn
  • Bwletinau trwy e-bost gyda gwybodaeth am ariannu sydd ar gael, rhaglenni hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio yn ogystal â chyfleoedd eraill a allai fod o fudd i fusnesau yn Nhorfaen
  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau busnes, gan gynnwys brecwastau busnes, gweithdai a seminarau a gynhelir gan sefydliadau partner
  • Rhestru manylion eich cwmni yn adran aelodaeth llais busnes (proffiliau aelodau) i’w rhannu ag aelodau eraill

I ddod yn aelod, e-bostiwch businessdirect@torfaen.gov.uk. Gellir talu trwy’r ddolen ac www.civicaepay.co.uk.  Byddwn yn cadarnhau eich aelodaeth unwaith y bydd y ffurflen wedi ei chwblhau’n gyflawn a’r taliad ill dau wedi eu derbyn.

Edrychwn ymlaen ar eich croesawu i Lais Busnes Torfaen.  Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn ymaelodi, cysylltwch â ni trwy businessdirect@torfaen.gov.uk, neu ffoniwch  01633 648735 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen
Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig