Animal Welfare Establishments
Yn 2019 cynhyrchodd Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, y Cod Arferion Gorau ar gyfer Sefydliadau Lles Anifeiliaid, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020.
Unrhyw sefydliad sy'n derbyn ac yn gofalu (dros dro, yn barhaol, neu'r ddau) am anifeiliaid sy'n agored i niwed yw Sefydliad Lles Anifeiliaid (SLlA).
Gallai hyn gynnwys sefydliadau a elwir yn gyffredin:
- cartrefi anifeiliaid
- gwarchodfeydd
- llochesi
- canolfannau ailgartrefu
- cartrefi gorffwys
- ysbytai anifeiliaid
- canolfannau adsefydlu
- canolfannau achub, a
- cyfleusterau anifeiliaid crwydr
Mae cyhoeddi cod ymarfer gwirfoddol wedi'i anelu'n bennaf at berchnogion llochesi yng Nghymru. Mae'r Cod Arferion Gorau yn esbonio'r hyn y mae angen i Sefydliadau Lles Anifeiliaid (SLlAau) ei wneud i fodloni'r safon gofal y mae'r gyfraith yn gofyn amdano.
Ni ddylai SLlA achosi unrhyw ddioddefaint diangen i'r anifeiliaid yn eu gofal; gallai hyn fod yn drosedd ddifrifol o dan y Ddeddf.
Mae'r canllawiau ar waith i gynorthwyo SLlAau i ddilyn y gyfraith ar les anifeiliaid sy’n agored i niwed. Ar hyn o bryd yng Nghymru nid oes unrhyw ddarpariaethau ar waith i awdurdodau lleol yng Nghymru reoleiddio SLlAau. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y gall canllawiau gwirfoddol y Cod Arferion Gorau newid ac efallai y bydd SLlAau yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol yn y dyfodol.
Mae copi o'r Cod Arferion Gorau ar gyfer Sefydliadau Lles Anifeiliaid ar gael i'w lawrlwytho.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/04/2025
Nôl i’r Brig