Beicio yn Nhorfaen
Mae gan Dorfaen rhwydwaith helaeth o lwybrau beicio hawdd eu cyrchu y gellir eu defnyddio i fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, cyrraedd cyfleusterau pwysig fel canolfannau hamdden a siopau, neu er pleser pur. Mae nifer o’r llwybrau oddi ar y ffordd ac maent yn pasio heibio tirweddau deniadol â nifer o nodweddion hanesyddol diddorol. Mae nifer y llwybrau wedi cynyddu’n gyflym iawn dros y blynyddoedd diweddar ac erbyn hyn mae yna rhwydwaith drawiadol iawn yn y cwm.
Mae yna nifer o lwybrau ‘Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol’ (NCN) yn y fwrdeistref, yn cynnwys:
- NCN 492 - Cwmbrân i Flaenafon
- NCN 49 - Casnewydd i Famheilad
- NCN 466 - Pont-y-pŵl i Grymlyn
Llwybr Afon Lwyd yw’r prif lwybr oddi ar y ffordd drwy Dorfaen a dilyna NCN 49 ac NCN 492 Gwmbrân i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Mae map o’r holl lwybrau beicio ar y ffordd ac oddi ar y ffordd ar gael i’w lawr lwytho (Map Llwybr Beicio - Gogledd Torfaen a Map Llwybr Beicio - De Torfaen). Gellir prynu map poced o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar gyfer De Ddwyrain Cymru yn cynnwys llwybrau yn Nhorfaen gan Sustrans.
Mae gorsafoedd atgyweirio beiciau am ddim gyda phympiau a sbaneri wedi'u lleoli yn:
- Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon Church Road, Blaenafon, NP4 9AE
- Parc Pont-y-pŵl y tu allan i Ganolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵlNP4 8AT
- Siop Un Stop, Station Road, Tref Gruffydd, NP4 5JH (NCN 49 + 492)
- Stadiwm Cwmbrân, Henllys Way, NP44 3YS
- Llyn Cychod Cwmbrân, gyferbyn â’r Boat House Café, NP44 8HT
Mae'r lleoliadau a gwybodaeth arall am deithio llesol ar gael ar mapdata.llyw.cymru
Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2025
Nôl i’r Brig