Gwasanaeth Allgymorth Torfaen
Mae gwasanaeth Allgymorth Torfaen yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc yn eu hysgolion, a chefnogaeth i staff sy'n gweithio gyda disgyblion fel rhan o ymateb graddedig.
Maent yn gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnig dull cydgysylltiedig mewn cydweithrediad ag ystod eang o bartneriaid amlasiantaethol i nodi'r camau nesaf tuag at y canlyniad a ddymunir ar gyfer y disgybl.
Mae'r gwasanaeth allgymorth yn darparu ymyrraeth wedi'i thargedu gan roi cyngor ac arweiniad i ysgolion i'w helpu i feithrin gallu, a datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i gynllunio a chefnogi disgyblion. Maent yn cynnig cymorth o ran rheoli gorbryder, sgiliau cymdeithasol, rheoli ymddygiad, asesiadau, rhaglenni addysgu a dysgu ac amrywiaeth o ymyriadau eraill.
Gall ysgolion atgyfeirio’n uniongyrchol i'r gwasanaeth. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Nôl i’r Brig