Swyddi a Chyfleoedd Gwirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Chwarae

Swyddi Gwag a Chyfleoedd am Hyfforddiant 

Rydyn ni’n chwilio am staff ar gyfer sesiynau chwarae’r haf yn Nhorfaen

Cynhelir y sesiynau chwarae o ddydd Llun 28 Gorffennaf hyd ddydd Iau 21 Awst

Cynhelir yr hyfforddiant yn ystod wythnos 21 Gorffennaf  

Swyddi sy’n cael eu Hysbysebu Ar Hyn o Bryd

Gweithiwr Cymorth Chwarae a Llesiant - £13.05 yr awr

Rhoi cymorth 1-1 i blant ag anableddau / anghenion ymddygiad. Gall hyn fod mewn cynllun chwarae, Gwersyll Bwyd a Hwyl neu ar safle chwarae a seibiant.

Gweithiwr Cymorth Chwarae a Llesiant

Gweithiwr Chwarae a Llesiant - £13.05 yr awr

Gweithiwr chwarae – cynllunio a chreu cyfleoedd chwarae cyfoethog ac amrywiol i blant)

Gweithiwr Chwarae a Llesiant

Goruchwylwyr Safle Chwarae a Llesiant - £13.26 yr awr

Unigolyn sy'n gyfrifol am y safle a'r staff

Goruchwylwyr Safle Chwarae a Llesiant

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau â thâl yw 21 Mawrth. Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges trwy e-bost i andrea.sysum@torfaen.gov.uk

Prentisiaethau, Lleoliadau Gwaith a Chyfleoedd am Hyfforddiant

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant fel ACT ac ITEC sy'n cynnig lleoliadau yn y gwaith a dysgu yn y gwaith. Rydyn ni hefyd yn cynnig lleoedd ar gyfer prentisiaethau. 

Mae Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Chwarae ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion a grwpiau cymunedol

Mae profiad gwaith a lleoliadau coleg a phrifysgol ar gael hefyd.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges trwy e-bost i torfaenplay@torfaen.gov.uk

Gwirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Chwarae

Mae’r Gwasanaeth Chwarae ar hyd o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr oed 16+ i gefnogi ein cynlluniau chwarae yn ystod yr haf. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Manteision Gwirfoddoli

  • Mae gwirfoddoli’n cael effaith ystyrlon a chadarnhaol ar y gymuned
  • Mae gwirfoddoli gallu datblygu diddordebau a hobïau newydd
  • Mae gwirfoddoli’n ffordd fendigedig o gael profiadau bywyd
  • Mae gwirfoddoli’n tynnu amrywiaeth o bobl o bob cefndir at ei gilydd
  • Mae gwirfoddoli’n golygu helpu pobl eraill yn y pen draw a chael effaith ar les pobl
  • Mae rhoi’ch amser i wirfoddoli yn eich helpu chi i wneud ffrindiau newydd, ehangu’ch rhwydwaith a rhoi hwb i’ch sgiliau cymdeithasol
  • Mae gwirfoddoli’n gallu rhoi hwb i’ch hunan hyder, eich hunan-barch a’ch boddhad â bywyd
  • Mae gwirfoddoli’n rhoi’r cyfle i chi ymarfer sgiliau pwysig sy’n cael eu defnyddio yn y gweithle, fel gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, cynllunio prosiectau, rheoli tasgau a sgiliau trefniadol.
  • Mae gwirfoddoli yn wych ar eich CV neu ar gais coleg neu brifysgol.

Gall bob gwirfoddolwr hawlio treuliau o £15 y dydd tuag at fwyd a theithio.

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael cefnogaeth i gwblhau hyfforddiant.

Bydd pob gwirfoddolwr yn gymwys i gael geirda ynglŷn â’u profiad mewn cynllun chwarae i’w cefnogi mewn gwaith ac astudiaethau yn y dyfodol.

Gwneud cais i wirfoddoli gyda’r gwasanaeth chwarae

Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Chwarae

Ffôn: 01495 742951
E-bost: torfaenplay@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig