Hysbysiadau Cosb Benodedig gan yr Ysgol

Gellir cyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig am Absenoldeb o’r Ysgol am y rhesymau canlynol:

  • Pan fydd o leiaf 10 sesiwn (5 diwrnod ysgol) wedi eu colli oherwydd absenoldeb anawdurdodedig yn ystod un tymor ysgol. Does dim rhaid i'r rhain fod yn olynol
  • Pan fydd o leiaf 10 sesiwn (5 diwrnod ysgol) wedi eu colli oherwydd cyfnod o absenoldeb anawdurdodedig yn ystod un tymor ysgol neu mae yna oedi cyn dychwelyd ar ôl gwyliau estynedig. (Gweler canllawiau i wyliau yn ystod y tymor)
  • Os yw'ch plentyn yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol yn barhaus ar ôl i'r gofrestr gau yn ystod un tymor ysgol. Ystyr "parhaus" yw cyrraedd yn hwyr ar gyfer o leiaf 10 sesiwn
  • Os yw'ch plentyn yn triwantio'n barhaus mewn man cyhoeddus

Os bydd ysgol yn galw am gyflwyno hysbysiad cosb benodedig, byddwn yn adolygu’r wybodaeth ac yn cyflwyno hysbysiad cosb benodedig os yw’n briodol gwneud hynny yn unig.

Oes rhaid i mi dalu?

Mae HCB sy’n ymwneud â phresenoldeb ysgol yn £60 os bydd yn cael ei dalu cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad y derbyniwyd yr hysbysiad, ac mae’n cynyddu i £120 os telir y swm ar ôl 28 diwrnod, ond o fewn 42 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad. Os na fydd yr HCB wedi ei dalu’n llawn erbyn diwedd y cyfnod o 42 diwrnod, gallwn naill ai:

  • erlyn rhieni/gofalwyr yn y ffordd arferol gan ddefnyddio adran 444(1) neu (1A) Deddf Addysg 1996.
  • tynnu'r HCB yn ôl mewn amgylchiadau cyfyngedig.

Nid oes hawl statudol i apelio ond pan fydd rhiant yn dadlau yn erbyn hysbysiad cosb benodedig, gallant anfon unrhyw gwynion i’r Gwasanaeth Lles Addysg a/neu ddewis wynebu achos yn y llys ynadon dan adran 444 Deddf Addysg 1996.

Gallwch dalu hysbysiad cosb benodedig ar lein.

Absenoldebau heb awdurdod

Cofnodir absenoldeb heb awdurdod pan nad yw'r rheswm a roddwyd am absenoldeb yn cael ei ystyried yn dderbyniol gan y Pennaeth.

Pennaeth ysgol eich plentyn yn unig all awdurdodi absenoldeb disgybl.

I gael mwy o wybodaeth am absenoldebau heb awdurdod, ewch i’r dudalen Presenoldeb Ysgol.

Gwella presenoldeb

Gallwch wella presenoldeb eich plentyn ac osgoi hysbysiad cosb benodedig trwy ddilyn y camau hyn:

  • Sicrhau bod eich plentyn yn mynd i'r ysgol bob dydd ac yn cyrraedd ar amser.
  • Os yw eich plentyn yn sâl, sicrhau eich bod yn cysylltu â’r ysgol ar y diwrnod cyntaf ac egluro’r amgylchiadau. Efallai y gofynnir i chi ddangos tystiolaeth feddygol.
  • Sicrhau bod gan yr ysgol eich manylion cyswllt cywir.
  • Osgoi trefnu gwyliau yn ystod y tymor.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Inclusion Service

E-bost: EWS@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig