Ymunwch â Maethu Cymru Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Chwefror 2025
Staying Local Campaign Feb 25

Rydym yn cefnogi ymgyrch genedlaethol i annog mwy o bobl i faethu gyda'u hawdurdod lleol a chadw plant yn eu cymunedau.

Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru yw tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdodau lleol o gymharu ag asiantaethau maethu annibynnol, gan gynnwys cefnogaeth leol a chysylltiadau agos â gweithwyr cymdeithasol plant.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru lansio mesur i fod y wlad gyntaf yn y DU i atal asiantaethau masnachol sy'n gwneud elw rhag maethu plant yng Nghymru, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Yn Nhorfaen, mae 75 y cant o leoliadau yn cael eu gwneud gyda gofalwyr awdurdodau lleol ond amcangyfrifir bod angen 35 o ofalwyr maeth ychwanegol i ateb y galw lleol.

Dechreuodd Sharon-Ann, 53, faethu gydag asiantaeth fasnachol yn 2015 cyn symud i Faethu Cymru Torfaen ar ôl gweithio gyda thîm MyST y cyngor, sy'n cefnogi plant a gofalwyr ag anghenion cymhleth.

Dywedodd Sharon: "Cefais fy nghyfeirio at MyST tra roeddwn yn maethu plentyn a oedd wedi profi nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gwnaeth y tîm argraff fawr arnaf a phenderfynais ymuno â nhw fel gofalwr maeth. Rwy'n cael cefnogaeth ardderchog gan Simona, fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol, sydd bob amser yn barod i gynnig cyngor a chefnogaeth."

"Trwy faethu gyda'ch awdurdod lleol rydych yn galluogi plant i gynnal perthynas â'u teulu a'u ffrindiau ac aros yn eu cymuned leol sy'n ei gwneud yn haws iddynt ymgartrefu yn eu cartref newydd."

Mae plant sydd angen gofal maeth yn cael eu paru i ddechrau â gofalwyr maeth awdurdodau lleol, cyn cael eu paru ag asiantaeth trydydd sector neu fasnachol os nad oes modd dod o hyd i leoliad addas.

Y llynedd, cafodd bron i 70 y cant o blant a osodwyd gydag asiantaethau maethu masnachol ofal y tu allan i'w hardal leol, o'i gymharu â dim ond 15 y cant o blant mewn gofal maeth awdurdodau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg Cyngor Torfaen: "Rydym yn ddiolchgar i'n gofalwyr maeth i gyd sy'n cefnogi plant nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd.

"Rydym yn credu fod gofalu am blant yn eu cymunedau lleol yn rhoi canlyniadau gwell iddyn nhw a'u teuluoedd ac mae'n cyd-fynd ag Amcanion Llesiant ein Cynllun Sirol. Er mwyn cyflawni hynny mae angen i ni gefnogi mwy o bobl i ddod yn ofalwyr gyda Maethu Torfaen."

I gael gwybod mwy am faethu gyda'ch harddwch lleol, ewch i wefan Maethu Cymru Torfaen - https://fosterwales.torfaen.gov.uk/

Diwygiwyd Diwethaf: 21/02/2025 Nôl i’r Brig