Gofalwr maeth lleol yn canmol gweithiwr cymdeithasol

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Mawrth 2025
Carol, Foster Carer

Mae Carol, Gofalwr Maeth yn Nhorfaen, wedi diolch i'w Gweithiwr Cymdeithasol sydd wedi ei chefnogi dros y 18 mlynedd ddiwethaf.

Yn ystod Wythnos Gweithwyr Cymdeithasol y Byd eleni, mae Carol wedi rhannu pa mor hanfodol y mae cefnogaeth ei Gweithiwr Cymdeithasol, Michelle, wedi bod.

Meddai Carol, sydd wedi gofalu am 25 o blant dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, ers dod yn ofalwr maeth cymeradwy i'r Cyngor: "Mae Michelle wedi fy nghefnogi ar y rhan fwyaf o fy nhaith faethu. Mae wedi bod ar gael ar bob adeg ac yn dod yn ôl ataf yn brydlon. Mae hefyd wedi ennyn ymddiriedaeth y plant yn fy ngofal.

"Mae Michelle yn tawelu fy meddwl ac yn fy arwain pan fyddaf yn ansicr, ac ar ôl i fy rhieni farw rhoddodd gefnogaeth emosiynol ac ymarferol i fi, gan roi cyfle i fi i alaru a pharhau i faethu ar yr un pryd."

Mae gan Maethu Cymru Torfaen 15 o Weithwyr Cymdeithasol sy'n cefnogi dros 150 o aelwydydd sy’n ofalwyr maeth, a'r plant a'r bobl ifanc yn eu gofal.

Gall y cymorth hwn gynnwys cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, arweiniad, dysgu a datblygu a llawer mwy.

Meddai Michelle, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sydd wedi cefnogi nifer o aelwydydd sy’n maethu: "Mae'n fraint gallu gweithio gyda gofalwyr maeth, a'u cefnogi gyda'r plant sydd yn eu gofal.  Rydych chi'n dod yn rhan o'u teulu ac yn dod i adnabod pawb.  Rwyf wedi gwylio merched Carol ei hun yn tyfu i fyny ac yn dod yn oedolion yn ystod fy chyfnod yn ei chefnogi."

Mae ymgyrch ddiweddaraf Maethu Cymru, 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth', yn tynnu sylw at yr arbenigedd a'r cymorth a geir gan Weithwyr Cymdeithasol, gyda'r nod o annog mwy o bobl i ystyried maethu.

Meddai Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Cyngor Torfaen dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd, "Mae ein cymuned faethu fel awdurdod lleol, ochr yn ochr â'n Gweithwyr Cymdeithasol ymroddgar, yn cael effaith aruthrol ar fywydau ein plant mwyaf agored i niwed.

"Mae Gweithwyr Cymdeithasol a gofalwyr maeth yn hanfodol wrth ddarparu cefnogaeth a sefydlogrwydd i blant a theuluoedd mewn angen. Mae eu hymroddiad yn trawsnewid bywydau ac yn cryfhau cymunedau. Er mwyn cynnal y gwaith hanfodol hwn, mae angen mwy o Ofalwyr Maeth arnom er mwyn cynnig cartrefi diogel a gofalgar i blant a phobl ifanc yn eu cymunedau."

Ar hyn o bryd, mae tua 240 o blant a phobl ifanc yn byw yn aelwydydd gofalwyr maeth Torfaen.

Yn anffodus, mae'r galw am ofalwyr maeth yn cynyddu, ac mae angen gofalwyr newydd i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc, er mwyn eu helpu i ffynnu.

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn trwy ddod yn ofalwr maeth awdurdod lleol gyda Maethu Cymru Torfaen, ewch i: Maethu Yn Nhorfaen | Maethu Cymru Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 20/03/2025 Nôl i’r Brig