Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Chwefror 2025
Mae cyfleuster parcio a theithio newydd yng Ngorsaf Reilffordd Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd wedi agor heddiw.
Daw ar ôl i'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd awdurdodi'r cyfleuster newydd yr wythnos hon gan ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio.
Mae'r maes parcio - y gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd newydd o'r A4042 - yn cynnwys 129 o leoedd cyffredinol, 11 o fannau parcio hygyrch, i feiciau modur, diogel i feiciau a chilfachau gollwng.
Mae'r safle'n cynnwys sawl cilfach gwefru cerbydau trydan a fydd ar gael i'w defnyddio yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Mae pont newydd a lifftiau sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a beiciau hefyd wedi'u gosod.
Y prosiect gwerth £7.1m yw'r cyntaf i'w gwblhau fel rhan o gynllun Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i greu system Metro De Cymru gwerth £50m.
Mae'r gwaith hefyd wedi cynnwys:
- Gwelliannau i'r platfform a'r man eistedd
- Gwell teledu cylch cyfyng a goleuadau
- Systemau gwybodaeth newydd i gwsmeriaid a phwynt cymorth
Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen.
Mae cynlluniau Metro Plus eraill yn cynnwys Cyfnewidfa Caerffili, Cyfnewidfa Merthyr Tudful a Chyfnewidfa Drafnidiaeth y Porth.
Y gobaith yw y bydd y cyfleuster newydd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r orsaf, gan arwain at gynnydd mewn gwasanaethau trenau.