Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Chwefror 2025
Mae'r broses o wneud eithriadau dros dro i'r terfyn 20mya diofyn yn barhaol yn Nhorfaen ar y gweill.
Mae gan breswylwyr tan ddydd Mercher 5 Mawrth i gynnig sylwadau ar y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar 44 eithriad.
Cafodd y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig ei leihau o 30mya i 20mya yng Nghymru ym mis Medi 2023.
Yn Nhorfaen, nodwyd bod 36 ffordd yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer terfyn cyflymder uwch a rhoddwyd Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro ar waith.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru feini prawf asesu diwygiedig i gynghorau, a gwahoddodd breswylwyr i awgrymu eithriadau ychwanegol.
Derbyniodd Cyngor Torfaen 702 o sylwadau, ac yn dilyn hynny nodwyd wyth ffordd ychwanegol.
Mae'r broses ffurfiol o gyflwyno Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) i wneud yr eithriadau yn barhaol bellach yn mynd rhagddi.
Mae tri GRhT yn cwmpasu ffyrdd a fydd yn parhau ar 30mya, 40mya a 60mya. Mae pedwerydd i gael gwared ar barthau 20mya lle mae'r ffyrdd yn 20mya diofyn.
I gael mwy o wybodaeth ac i gynnig sylwadau am y GRhT: https://www.torfaen.gov.uk/cy/RoadsTravelParking/RoadsAndPavements/Traffic-Regulation-Orders/Traffic-Regulation-Orders.aspx