Gorsafoedd atgyweirio beiciau

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Ebrill 2025

Bydd pedair gorsaf atgyweirio beiciau newydd yn cael eu gosod ledled y fwrdeistref erbyn diwedd mis Ebrill.

Bydd y gorsafoedd atgyweirio beiciau newydd yn cael eu lleoli'n strategol mewn mannau allweddol ar draws Torfaen, gan sicrhau hygyrchedd i bob beiciwr.

Bydd gan bob gorsaf atgyweirio beiciau offer hanfodol, gan gynnwys pympiau, sbaneri, ac offer atgyweirio arall, gan ganiatáu i feicwyr wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio sylfaenol wrth fynd. Mae'r teclynnau ynghlwm wrth geblau estynadwy, gan eu gwneud yn addas ar gyfer beiciau o bob maint.

Yn ogystal, bydd pob gorsaf yn cynnwys cod QR sydd, pan gaiff ei sganio gyda ffôn symudol, yn cyfeirio defnyddwyr at wefan gyda chyfarwyddiadau defnyddiol ar gyfer atgyweirio.

Nod y gorsafoedd newydd hyn yw cefnogi'r gymuned gynyddol o feicwyr a hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy. Byddan nhw’n yn darparu adnodd gwerthfawr i feicwyr hamdden a'r rhai sy'n defnyddio beiciau fel eu prif ddull trafnidiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym wrth ein bodd o fedru cyflwyno pedair gorsaf atgyweirio newydd i gyd-fynd â'r un a osodwyd y llynedd y tu allan i Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.

"Maen nhw'n dangos ein hymroddiad i gefnogi'r gymuned feicio a hyrwyddo teithio cynaliadwy ledled Torfaen.

"Bydd y gorsafoedd hyn yn ychwanegiad gwych i'n cymuned, gan ei gwneud hi'n haws i feicwyr gynnal a chadw eu beiciau a pharhau i fwynhau'r llwybrau hardd sydd gan Dorfaen i'w cynnig."

Erbyn diwedd y mis bydd gorsafoedd atgyweirio ar gael ym Mlaenafon, Pont-y-pŵl, Tref Gruffydd a Chwmbrân.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad ehangach y cyngor i wella seilwaith lleol ac annog dulliau teithio iach, ecogyfeillgar.

Mae gosod y gorsafoedd atgyweirio beiciau hyn yn cael ei ariannu trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n adlewyrchu ymdrechion parhaus y cyngor i fuddsoddi mewn lles cymunedol a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Dewch o hyd i leoliadau’r gorsafoedd atgyweirio

Dysgwch fwy am deithio llesol yn Nhorfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2025 Nôl i’r Brig