Tîm sbwriel yn achub bywyd dyn

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5 Mawrth 2025
Peter Scott

Mae cyn-brifathro wedi diolch i dîm gwastraff y cyngor am achub ei fywyd pan gafodd drawiad ar y galon.

Roedd Peter Scott, o Groesyceiliog, yn ymweld â swyddfa bost yng Nghwmbrân ym mis Ionawr pan gwympodd.

Yn ffodus, galwodd aelod o'r criw, Liam Taylor i Swyddfa'r Post a rhoi gwybod ar unwaith i'w gydweithwyr Andrew Jones a Brian Moylan, a oedd wedi cael cwblhau hyfforddiant CPR yn ddiweddar.

Galwodd Liam y gwasanaeth ambiwlans wrth i Brian ddechrau CPR, a pharhaodd am tua 10 munud nes i barafeddygon gyrraedd.

Cafodd Mr Scott, cyn-bennaeth Ysgol Abersychan, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Y Faenor, yng Nghwmbrân, lle cafodd ei roi mewn coma ysgogedig ac arhosodd yno am dair wythnos.

Dywedodd Mr Scott, 76, sy'n rhedwr brwd: "Rydw i dal yma diolch i'r tîm gwastraff rhagorol, a Brian yn benodol. Fe wnaeth y tîm achub fy mywyd."

"Ni allwn i a fy nheulu fod yn fwy diolchgar am yr hyn a wnaethon nhw ac i gyngor Torfaen am sicrhau bod y timau'n derbyn yr holl hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer argyfyngau o'r fath.

"Roedd yn lwc anhygoel bod Liam wedi penderfynu dod mewn i'r siop i brynu diod a’i fod wedi dod o hyd i fi ar y llawr!"

"Rwy'n credu fy mod i "mewn man arall" am tua 20 munud tra bod Brian yn rhoi CPR i mi a dywedwyd wrthyf i y byddwn wedi marw heb hynny."

Dywedodd Brian, 56 oed o Gwmbrân: "Roedden ni'n meddwl bod Peter wedi marw, doedd dim bywyd ynddo fe.

"Ar ôl i staff ambiwlans ei godi, fe wnaethon ni wneud ein ffordd yn ôl i'r iard yn teimlo'n drist ac yn isel.

"Cawsom wybod ychydig ddyddiau'n ddiweddarach gan ei wraig, fod Peter wedi cael ei roi mewn coma ysgogedig, ond roedd yn fyw.

"Cyn gynted ag y llwyddom ni, fe wnaethon ni gyfarfod â Peter ei gartref. Roedd yn emosiynol iawn.

"Dydych chi ddim yn credu bod unrhyw beth fel hyn yn mynd i ddigwydd yn ystod eich oes, ond rwyf mor falch ein bod wedi ein hyfforddi ar gyfer pob posibilrwydd. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio'r sgiliau ychwanegol rydych chi wedi'u dysgu."

Mae Mr Scott bellach yn gwella gartref gyda'i deulu.

Mae'n mynychu dosbarthiadau adsefydlu yn Ysbyty Sirol Pont-y-pŵl ac mae wedi dechrau cerdded pellterau byr yn lle rhedeg wrth iddo wella.

Dywedodd Mr Scott: "Rwy'n ymwybodol bod clefyd y galon yn rhedeg yn fy nheulu, ond rydw i wedi cael gwybod y byddaf yn gallu mynd yn ôl i redeg mewn amser cyn belled fy mod yn ofalus."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Hoffwn longyfarch ein tîm am ymateb i'r argyfwng ac achub bywyd Mr Scott. Mae'n amlwg, heb eu camau cyflym, y byddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn.

"Rydym yn gwerthfawrogi ein criwiau ac yn buddsoddi mewn hyfforddiant i'w paratoi ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd. Rwy'n dymuno'r gorau i Mr Scott yn ei adferiad." 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2025 Nôl i’r Brig