Canllawiau Ailgylchu A i Y
Gallwch ailgylchu mwy na sbwriel. Gallwch ailgylchu'r rhan fwyaf o nwyddau cartref er mwyn creu pethau newydd.
Dewiswch y llythyren berthnasol o'r rhestr isod i gael gwybod mwy.
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y
Amlenni
Gallwch ailgylchu amlenni yn eich blwch du (mewn bag i’w cadw’n sych).
Yn ôl i’r brig
Bagiau Cadi
Gallwch gasglu bagiau cadi gwastraff bwyd am ddim o un o'n hybiau casglu cynwysyddion ailgylchu. Gallwch hefyd ddefnyddio bagiau plastig fel bagiau bara a bagiau o flychau grawnfwyd os yw eich bagiau cadi gwastraff bwyd wedi dod i ben.
Bagiau plastig
Mae dros deg biliwn o fagiau plastig yn cael eu defnyddio bob blwyddyn - tua 167 y person. Nid ydynt yn fioddiraddadwy ac maent yn creu llanast ar y strydoedd. Y tro nesaf y byddwch chi’n mynd i siopa, beth am fynd â rhai bagiau plastig gyda chi. Yn well fyth, beth am brynu "Bag am Oes" neu ewch â bag cynfas i gario eich siopa - maen nhw'n gryfach a gallwch eu hailddefnyddio sawl gwaith.
Batris
Yn hytrach na phrynu batris arferol, beth am brynu batris y gellir eu hailwefru sy'n parhau'n hirach ac yn well i'r amgylchedd.
Gallwch roi Batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V (rhaid eu rhoi mewn bag a’i glymu) yn eich blwch du i’w casglu.
Mae mannau ailgylchu batris ar gael gan yr holl fân-werthwyr mawr ac yn ein Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.
Bin Gwyrdd
Ewch i dudalen biniau gwyrdd i ganfod beth y gallwch ei ailgylchu wrth ymyl y ffordd. I gael gwybod pryd y bydd eich bin gwyrdd yn cael ei gasglu, ewch i dudalen diwrnodau casglu biniau gwyrdd.
Blwch ailgylchu du
Defnyddiwch y blwch du ar gyfer gwydr, batris, papur, papurau newydd a dillad/esgidiau.
Lle bo'n bosibl, rhowch bapur a thecstilau mewn bag i'w cadw'n sych neu roi bagiau coch/glas ar ben eich blwch du i gadw eitemau mor sych â phosibl. Mae angen rhoi batris o bob math mewn bag. I gael gwybodaeth am sut i ddefnyddio'ch blwch ac i gael gwybod mwy am eich diwrnod casglu ewch i dudalen Gwasanaeth Ailgylchu blychau du.
Bwyd
Gallwch ailgylchu gwastraff bwyd drwy ddefnyddio cadi gwyrdd y gegin a’r cadi brown.
Gallwch hefyd ailgylchu rhywfaint o fwyd trwy ddefnyddio biniau compostio neu abwydfeydd. Rhowch glic ar ein tudalen compostio i gael gwybod mwy.
Bwyd anifeiliaid anwes
Os yw bwyd eich anifail anwes yn dod mewn tun, gallwch ei ailgylchu. Golchwch y tun a’i ailgylchu yn eich bag coch. Mae pacedi bwyd cathod wedi'u gwneud o ffilm fetel ac ni ellir eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd.
Bydd angen i fwyd anifeiliaid anwes sydd dros ben, fynd yn y bin â chlawr porffor. Nid yw'n addas i’w gompostio gartref oherwydd rheoliadau sgil-gynnyrch anifeiliaid.
Bylbiau golau
Newidiwch eich bylbiau golau am rai sy’n arbed ynni. Gallwch ailgylchu'r hen rhai yn y Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Yn ôl i’r brig
Cadi Cegin
Defnyddiwch eich cadi cegin i helpu i ddidoli gwastraff o’r gegin. Trosglwyddwch eich gwastraff bwyd i’ch cadi brown sy’n cael ei gasglu bob wythnos.
Caniau
Gallwch ailgylchu caniau a thuniau drwy eu rhoi nhw yn eich bag coch (a fyddech cystal â’u golchi a’u cywasgu yn gyntaf).
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Gwaredwch ar wastraff a deunyddiau y gellir eu hailgylchu yma. Mae cyfleusterau ar gael am ddim. Codir tâl am wastraff masnachol.
I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Cardbord
Gallwch ailgylchu cardbord yn eich bag glas. Neu, gallwch fynd ag ef i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.
Cardiau Nadolig
Gallwch ailddefnyddio hen gardiau a phapur i wneud labeli anrhegion. Neu, gallwch ailgylchu cardiau plaen yn eich bag glas sydd ar gyfer cardbord. Mae angen i unrhyw gardiau sydd â botymau, clymau, gliter neu leiniau, fynd yn y bin â chlawr porffor am na ellir eu hailgylchu.
Cartonau
Gallwch ailgylchu cartonau bwyd a diodydd hylif sydd wedi eu creu o bapur (tetra pak) yn eich bag coch (ond cofiwch dynnu capiau, eu golchi a’u cywasgu yn gyntaf)
Casgliadau gwastraff ailgylchu a fethwyd
A wnaethom fethu eich gwastraff ailgylchu? Efallai bod rheswm am hyn. A oedd y blwch allan mewn pryd? A oedd y blwch yn cynnwys yr eitemau cywir? A oedd y cynhwysydd wedi ei olchi?
Os ateboch oedd i’r holl gwestiynau hyn, rhowch wybod am gasgliad a fethwyd.
CDs (Cryno Ddisgiau)
Gallwch roi hen CDs i siopau elusen fel The Steelhouse neu Circulate.
Cemegion Gardd
Mae cemegion gardd yn cael eu hystyried yn wastraff peryglus o’r cartref a rhaid cymryd gofal wrth waredu arnynt. Gallwch fynd â’r rhain i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Cetris peiriannau argraffu
Ewch â nhw i siopau sy’n gallu eu hailenwi, neu’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Cewynnau
Gall preswylwyr sydd â phlant mewn cewynnau wneud cais am gyflenwad o fagiau trwchus a fydd yn cael eu casglu ar yr un diwrnod â'ch bin â chlawr porffor. Edrychwch ar ein tudalen bagiau melyn i gael mwy o wybodaeth.
I breswylwyr Torfaen, mae'r cyngor yn cynnig taleb gwerth £30 tuag at y gost o brynu Cewynnau Go Iawn am y tro cyntaf yn ogystal â chadachau y gellir eu hailddefnyddio. Fe gewch fwy o wybodaeth ar y dudalen cewynnau go iawn.
Cewynnau go iawn
Er nad oes modd ailgylchu cewynnau, gallwch ddefnyddio cewynnau clwt i helpu i warchod yr amgylchedd.
Mae'r cyngor yn cynnig taleb o £30 tuag at y gost o brynu eich cewynnau y gellir eu hailddefnyddio am y tro cyntaf.
Yn ogystal â'ch taleb, mae gan Dorfaen gymhorthfa cewynnau clwt a all gynorthwyo gydag unrhyw gwestiynau neu help personol. Gallwch alw heibio’r gwasanaeth agored hwn sydd am ddim yn siop Sero Wastraff Torfaen yng Nghwmbrân ar ddydd Iau olaf pob mis rhwng 10.30am a 12.30pm. Gallwch gysylltu â nhw ar www.facebook.com/Wastesaversnappylibrary
Coed Nadolig
Ar ôl y Nadolig, gallwch ailgylchu eich coeden go iawn yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gallwch hefyd waredu ar goed plastig yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gofynnwch i’r staff ar y safle am gyngor ar ba fae i’w ddefnyddio.
Compostio
Mae’n hawdd compostio yn Nhorfaen. I gael gwybod mwy ewch i’r dudalen compostio.
Crwyn llysiau
Gallwch roi croen llysiau yn eich bin compost yn y cartref neu yn eich cadi brown. Mae mwy o wybodaeth ar gael am gompostio.
Cwestiynau
A oes gennych unrhyw gwestiynau? Ffoniwch 01495 762200 neu e-bostiwch waste@torfaen.gov.uk.
Cwiltiau a Chlustogau/gobenyddion
Rhowch y rhain i elusennau/sefydliadau anifeiliaid, eu rhoi yn eich bin â chlawr porffor, neu ewch â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Yn anffodus, ni ellir eu hailgylchu mewn banciau tecstilau.
Cyfrifiaduron
Gallwch fynd â nwyddau trydanol yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Os yw eich eitemau yn gweithio, a fyddech cystal â’u rhoi i The Steelhouse neu Circulate.
Cylchgronau
Gallwch ailgylchu cylchgronau blwch du (mewn bag i’w cadw’n sych).
Cynllun Trwydded Fan
Mae cerbydau sydd wedi'u cynllunio i gario nwyddau neu ddefnyddio trelar angen trwyddedau i ddefnyddio'r Ganolfan Ailgylchu Cartrefi yn Y Dafarn Newydd. Maent ar gael i drigolion Torfaen yn unig, ac mae'n rhaid i chi wneud cais ymlaen llaw. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen Cynllun Trwydded Fan
Cynwysyddion tecawê
Gallwch ailgylchu cynwysyddion tecawê plastig glân yn eich bag coch. Bydd angen i gynwysyddion polystyren neu ffoil fynd yn y bin â chlawr porffor.
Cyrc
Rhowch gyrc yn y bin â chlawr porffor os na allwch chi eu hailddefnyddio.
Yn ôl i’r brig
Dail
Gallwch roi dail yn eich bin compost neu gellir eu casglu yn eich bin gwyrdd. Mae gwybodaeth am gompostio ar gael yma.
Deunydd pacio polystyren
Ni ellir ei ailgylchu. Pan fyddwch yn prynu pethau newydd, gwnewch ymdrech i brynu pethau sy’n cynnwys cyn lleied o ddeunydd pacio â phosibl. Dylech roi polystyren yn y bin â chlawr porffor.
Dillad
Gallwch roi eich dillad yn eich blwch du (mewn bag i’w cadw’n sych) neu beth am fynd â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu fanciau elusennol dibynadwy ledled y Fwrdeistref. Gallwch fynd â dillad sy'n addas i'w hailddefnyddio, i siop elusen.
Dodrefn
Cysylltwch â Chwmni Ailgylchu Dodrefn Circulate. Gallant gludo’r dodrefn am ddim os ydyw mewn cyflwr da. Ffoniwch 01495 793187.
Mae llawer o gwmnïau fydd yn fodlon cymryd hen ddodrefn i’w ailgylchu neu fe allwch ei rhoi i siopau elusen a siopau ail law fel The Steelhouse.
Os oes gennych unrhyw eitemau mawr nad ydynt yn addas i'w hailddefnyddio, cysylltwch â Galw Torfaen ar 01495 762200 i gasglu eitemau swmpus.
Dodrefn Swyddfa
Ailgylchwch eitemau drwy gwmnïau sy’n arbenigo fel Cwmni Ailgylchu Dodrefn Circulate. Ffoniwch 01495 793187.
Drychau
Os ydynt yn gyfan a bod modd eu hailddefnyddio beth am roi cynnig ar eich siop ddodrefn ail law. Neu fel arall , gallwch fynd â drychau i The Steelhouse neu Gwmni Ailgylchu Dodrefn Circulate. Os ydynt wedi torri, gallwch fynd â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Yn ôl i’r brig
Erosolau
Erosolau Gallwch ailgylchu aerosolau. Gwnewch yn siŵr eu bod yn wag a rhowch nhw yn eich bag coch i’w casglu.
Yn ôl i’r brig
Fideos a DVDs
Gallwch roi hen fideos a DVDs i’ch siop elusen leol fel The Steelhouse.
Yn ôl i’r brig
Ffabrig
Gallwch roi dillad gwely i The Steelhouse, Circulate neu eu rhoi yn y banciau yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Ffoil
Ni ellir ailgylchu ffoil, dylech ei rhoi yn eich bin â chlawr porffor. Ailddefnyddiwch unrhyw ffoil lle bo hynny'n bosibl ac ystyriwch ddefnyddio deunyddiau eraill, y gellir eu hailddefnyddio, i storio bwyd.
Ffonau symudol
Gallwch fynd â hen ffonau symudol i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i’w ailgylchu.
Os ydynt yn dal i weithio, efallai y byddwch yn gallu eu gwerthu. Edrychwch ar lein i weld pa gynigion sydd ar gael.
Yn ôl i’r brig
Grefi - Potiau
Rhowch y rhain y tu mewn i'ch bin â chlawr porffor. Yn anffodus, maent yn cynnwys gormod o ddeunyddiau ac ni ellir eu hailgylchu ar hyn o bryd.
Gwastraff o’r ardd
Gallwch ailgylchu gwastraff gardd yn y bin gwyrdd. Neu, gallwch fynd â’r gwastraff i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Gwlân
Gallwch roi peli gwlân i’ch siop elusen leol.
Gwydr – poteli a jariau
Gallwch ailgylchu'r rhain drwy eu rhoi yn eich blwch du. Gallwch adael caeadau ar y jariau neu eu gadael yn rhydd yn y blwch.
Gwydr Pyrex
Mae llestri gwydr ar gyfer y gegin yn gwrthsefyll gwres ac nid yw'n addas ar gyfer y gwaith ailgylchu. Os oes gennych wydr wedi torri, lapiwch ef yn ofalus a’i rhoi yn eich bin â chlawr porffor.
Gall gwydr sydd wedi torri hefyd fynd yn y sgip rwbel yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Os gellir eu hailddefnyddio ewch â nhw i siop elusen.
Yn ôl i’r brig
Haenen lynu (cling film)
Ni allwn gasglu haenen lynu, i’w hailgylchu. Beth am ddefnyddio llai o haenen lynu drwy storio brechdanau a bwyd mewn blychau plastig wedi eu selio. Rhowch unrhyw haenen lynu yn eich bin â chlawr porffor.
Yn ôl i’r brig
Inc (Cetris)
Mae llawer o elusennau a mudiadau yn fodlon cymryd eich hen getris inc, eu hadnewyddu a’u llenwi. Yna maen nhw’n cael eu hail-werthu. Mae biniau ailgylchu hefyd yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer cetris inc.
Yn ôl i’r brig
Llyfrau
Gallwch roi llyfrau sydd mewn cyflwr da i siopau elusen The Steelhouse. Gallwch hefyd fynd â llyfrau i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.
Llythyrau
Gallwch eu hailgylchu yn eich blwch du (mewn bag i’w cadw’n sych).
Llythyrau sothach
I leihau’r llythyrau sothach yr ydych yn eu derbyn, cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewis Post.
I atal post heb gyfeiriad rhag cael ei ddosbarthu i’ch cyfeiriad, llenwch Ffurflen Optio Allan Gwasanaeth Drws i Ddrws y Post Brenhinol.
Gallwch hefyd ailgylchu llythyrau sothach yn eich blwch du (mewn bag i’w gadw’n sych).
Yn ôl i’r brig
Matresi
Gallwch fynd â matresi i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Metel
Gallwch ailgylchu tuniau (yn cynnwys tuniau bisgedi) a chaniau metel yn eich bag coch. Gallwch fynd â metel sgrap i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Moddion
Dylech ddychwelyd poteli o foddion neu dabledi sydd heb eu gorffen, i’ch fferyllfa leol. Gall unrhyw blastig gwag fynd i mewn i'r bag coch neu gallwch roi poteli gwydr yn y blwch du i’w hailgylchu.
Yn ôl i’r brig
Nwyddau trydanol
Gallwch fynd ag eitemau trydanol i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Os yw eich eitemau yn gweithio, gallech fynd â nhw i The Steelhouse neu Circulate. Os oes angen trwsio eitem drydanol fach, gallech geisio mynd ag ef i'r Caffi Atgyweirio ym Mhont-y-pŵl.
Yn ôl i’r brig
Olew
Ni ddylid tywallt olew coginio i lawr y draen gan ei fod yn achosi'r draen i flocio. Cymysgwch yr olew gyda hadau adar a'i adael i galedu. Yna gallwch ei roi allan ar eich sil y ffenest neu'n hongian o goeden a bwydo'r adar yn y gaeaf. Gellir hefyd ei gompostio naill ai yn y cartref neu yn eich cadi brown.
Olew Coginio
Gallwch ailgylchu olew coginio yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.
NI ddylid tywallt olew coginio sydd yn wastraff, i lawr y draen – gall flocio pibau a charthffosydd.
Yn ôl i’r brig
Paent
Gallwch ailgylchu paent drwy gynllun Ailbeintio’r Gymuned sydd dan ofal CoStar. (2 Fairwater Square, Cwmbrân) - Ffôn: 01633 357244.
Gallwch hefyd fynd â phaent i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Papur
Gallwch ailgylchu papur yn eich blwch du, yn cynnwys llythyrau sothach, llythyrau, papurau newydd a phapur swyddfa. Cadwch y papur mor sych â phosibl trwy roi’r bag glas /coch dros ben y blwch du neu defnyddiwch fag.
Papur cegin
Gallwch brynu papur cegin sydd wedi cael ei ailgylchu o uwchfarchnadoedd. Yn well fyth, defnyddiwch glytiau cotwm i olchi llestri, a gallwch eu hailddefnyddio. Gallwch gompostio papur cegin yn y cartref, neu yn eich bin â chlawr porffor.
Papur lapio
Ni ellir ailgylchu papur lapio, rhaid ei rhoi yn y bin â chlawr porffor.
Papur lapio anrhegion
Ni ellir ailgylchu papur lapio, rhaid ei roi yn y bin â chlawr porffor, neu ei ailddefnyddio os yw hynny’n bosibl.
Papur tŷ bach
Cadwch lygad am bapur tŷ bach wedi ei wneud o bapur a gafodd ei ailgylchu– mae’r mwyafrif o uwchfarchnadoedd yn ei werthu erbyn hyn. Gallwch ailgylchu rholiau papur tŷ bach yn eich bag glas.
Papur wedi’i rhwygo’n fân
Gellir ailgylchu papur wedi'i rhwygo’n fân yn y blwch du. Rhowch y papur mewn bag, yn ddelfrydol bag y gellir gweld drwodd. Gallwch hefyd ddefnyddio papur mân ar gyfer gwelyau anifeiliaid anwes.
Papurau newydd
Gallwch eu hailgylchu yn eich blwch du (mewn bagiau i’w cadw’n sych).
Podiau Coffi
Gallwch ailgylchu Podiau Coffi yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gwahanwch bodiau plastig ac alwminiwm a’u rhoi yn y cynhwysydd ar y safle.
Porfa
Ar ôl torri porfa gallwch ei ailgylchu yn eich bin gwyrdd neu gallwch ei gompostio gartref. Mae mwy o wybodaeth ar gael am gompostio yn y cartref
Post heb gyfeiriad
I roi diwedd ar bost heb gyfeiriad sy’n cael ei anfon i’ch cyfeiriad chi, llenwch Ffurflen Optio Allan Gwasanaeth Drws i Ddrws y Post Brenhinol.
Poteli a chaniau diodydd
Gall y rhain gael eu hailgylchu, rhowch nhw yn eich bag coch i’w casglu. Golchwch a chywasgwch y caniau.
Poteli Nwy
Gallwch fynd â photeli nwy i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Poteli, tybiau a hambyrddau plastig
Rhowch boteli, tybiau a hambyrddau plastig yn eich bag coch.
Potiau iogwrt
Gallwch ailgylchu potiau iogwrt yn eich bag coch.
Potiau Planhigion
Ewch â photiau planhigion i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Pren a choed
Gallwch fynd â phren i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i’w ailgylchu.
Yn ôl i’r brig
Rwbel
Gallwch fynd â phridd a rwbel i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.
Yn ôl i’r brig
Rhewgelloedd ac oergelloedd
Cysylltwch â’r cyngor i waredu ar eich oergell neu rewgell neu ewch â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd. I drefnu iddynt gael eu casglu ffoniwch 01495 762200.
Yn ôl i’r brig
Sbwriel o’r cartref
Mae modd ailgylchu dros 60% o’r sbwriel o’ch cartref. Mae’r sbwriel nad oes modd ei ailgylchu yn mynd i mewn i’ch bin â chlawr porffor. I gael gwybodaeth am yr hyn y gellir ei ailgylchu ewch i’r dudalen beth sy’n mynd ym mha fin.
Mae manylion eich diwrnod casglu ar gael ar y dudalen diwrnodau casglu sbwriel
Sinc
Mae sinc mewn batris – i ganfod sut y gallwch eu hailgylchu, gweler batris.
Stampiau
Wrth dorri o amgylch hen stampiau post ar amlenni (a gadael ffin o tua 1cm) fe allwch eu rhoi i Oxfam, i’w hailwerthu.
Yn ôl i’r brig
Tecstilau
Gallwch ailgylchu tecstilau yn eich blwch du neu fynd â nhw i The Steelhouse neu’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Teganau plant
Gallwch fynd â theganau plastig sydd wedi torri i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y. Gallwch roi teganau sydd mewn cyflwr y gellir eu hailddefnyddio, i siop elusen leol fel The Steelhouse neu Circulate
Tetra Pak
Gallwch ailgylchu cartonau tetrapak a chartonau diod eraill yn eich bag coch.
Tiwbiau Creision
Rhowch y rhain yn eich bin â chlawr porffor. Yn anffodus, maent yn cynnwys gormod o ddeunyddiau ac ni ellir eu hailgylchu ar hyn o bryd.
Tiwbiau Past Dannedd
Gallwch ailgylchu tiwbiau past dannedd yn eich bag coch.
Tsieina – Llestri ac Addurniadau
Os nad ydynt wedi torri, gallwch eu rhoi i siop elusen fel The Steelhouse neu Circulate. Peidiwch â’u rhoi gyda’ch eitemau ailgylchu os gwelwch yn dda. Gallwch ailgylchu llestri sydd wedi torri yn yr adran rwbel yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Tuniau
Gallwch eu hailgylchu yn eich bag coch.
Yn ôl i’r brig
Y Tîm ailgylchu
I gysylltu â’r tîm ailgylchu ffoniwch 01495 762200 neu e-bostiwch waste@torfaen.gov.uk.
Ysgolion
Gall ysgolion ailgylchu hefyd. Os hoffech i ni gasglu o’ch ysgol, ffoniwch 01495 762200 neu e-bostiwch business.recycling@torfaen.gov.uk.
Yn ôl i’r brig
Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2025
Nôl i’r Brig