Gwarchodfeydd Natur Lleol

Mae gwarchodfeydd natur lleol yn ardaloedd gwarchodedig sydd â nodweddion naturiol neu ddaearyddol o bwysigrwydd cenedlaethol neu leol arbennig.

Mae'r cyngor yn gyfrifol am amddiffyn saith gwarchodfa natur leol a bydd yr wythfed yn dwyn ffrwyth yn 2025. 

Mae gwarchodfeydd natur lleol yn fannau agored y gall y cyhoedd eu mwynhau.    

Llynnoedd Garn, Blaenafon 

Mae’r tri llyn, sy'n ffurfio'r warchodfa hon, yn gartref i adar dŵr sy’n nythu, rhydwyr ac amrywiaeth o weision y neidr fel y sgimiwr cynffon ddu. Crëwyd ardal gwlypter newydd gyda chuddfan adar yn ddiweddar.  

Blaenserchan, ger Abersychan 

Disgwylir i'r ardal hon gael ei henwi’n warchodfa natur leol yn 2025. Mae'r safle 86 hectar yn gartref i nifer o rywogaethau nodedig yn cynnwys sawl rhywogaeth nodedig fel tegeirianau, y corwlyddyn clymog, y feillionen arw, yr edafeddog leiaf, a’r lloerlys. Mae hefyd yn gartref i 30 math o löyn byw.

Tirpentwys, Pont-y-pŵl 

Arferai Tirpentwys fod yn hen fan tipio sydd bellach wedi cael ei adfer gan natur. Erbyn hyn mae’n gyfoeth o gynefinoedd, yn cynnwys pyllau, coedwig a ffrydiau.

Coridor Cwmafon, ger Blaenafon 

Mae’r warchodfa 45 erw yn cynnwys llwybr beicio, sy’n dilyn llwybr hen reilffordd drwy laswelltir a choetir aeddfed o dderw digoes, ffawydd a chyll, ar uchder o 300m. Chwiliwch am adar y coed fel y gwybedog brith, telor y coed a'r tingoch yma.

Chwarel Cwm-ynys-cou, ger Pont-y-pŵl 

Wedi'i lleoli mewn chwarel segur, mae’r warchodfa hon yn gartref i nifer o rywogaethau pwysig, gan gynnwys yr ystlum a thylluanod gwyn. 

Pyllau Churchwood a Springvale, Cwmbrân 

Wedi'i leoli wrth ymyl y Fferm Gymunedol Greenmeadow, mae’r warchodfa hon yn cynnwys coetir hynafol a chyfres o byllau a gwlypdiroedd sy'n bwysig ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt. 

Man Agored Henllys, Cwmbrân 

Mae'r warchodfa hon yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd, o laswelltir a nentydd i goetir llydanddail mawreddog. Mae'n gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt, megis y glöyn byw brown gwyn. 

Llwyncelyn, Cwmbrân 

Wedi'i lleoli wrth ymyl Mynwent Llwyncelyn gyda’i golygfeydd godidog, y warchodfa hon yw’r enghraifft fwyaf o ddolydd llawn blodau yn Nhorfaen.  

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn rheoli tair gwarchodfa natur leol arall: 

Dolydd Branches Fork, Pontnewynydd 

Mae'r warchodfa fechan hon yn gorwedd islaw planhigfa gonwydd Coedwig Y Wern. Mae'n gartref i amrywiaeth o gynefinoedd, yn cynnwys pwll, glaswelltir rhostir llaith, prysgwydd helyg a choetir derw ifanc. 

Coed Meyric Moel, Cwmbrân 

Mae'r warchodfa drefol fach hon yn cynnwys dôl ac ardal fechan o goetir derw. Mae'n safle da ar gyfer adar, gloÿnnod byw a phryfed eraill. 

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cors Henllys

Cors fach mewn dyffryn wedi’i amgylchynu gan goedwig gyda phlanhigion mawr a diddorol. Caiff y warchodfa ei rheoli gan GNL Cyfeillion Henllys

Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Ecoleg

Ffôn: 01633 648256

Nôl i’r Brig