Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur
Mae sawl ardal yn Nhorfaen yn cael eu hystyried yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur.
Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol fel y rhain yn safleoedd gwarchodedig.
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn safleoedd ecolegol pwysig sy'n cael eu gwarchod yn gyfreithiol.
Mae pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Nhorfaen:
- Cronfa Ddŵr Llandegfedd, sydd â phoblogaeth sylweddol o adar gwyllt sy’n gaeafu ac adar ymfudol
- Y Blorens, sydd â chymunedau o blanhigion grug ucheldirol
- Cors Henllys, sy’n adnabyddus fel ffen llawr gwlad
- Tŷ’r -Hen-Forwyn sy’n ddol tir uchel
Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur
Mae Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur, sydd hefyd yn cael eu galw’n safleoedd bywyd gwyllt lleol, yn cael eu gwarchod o ran penderfyniadau cynllunio. Mae mwy na 200 o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur yn Nhorfaen.
Mae grŵp lleol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru ac eraill yn adolygu cyflwr y safleoedd. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC) ac yn diweddaru mapiau i ddangos eu maint a'u cyflwr presennol.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025
Nôl i’r Brig