Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Chwefror 2025
Yr wythnos hon, yn rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, bu prentisiaid diweddaraf y Cyngor yn trafod eu dyheadau o ran gyrfa gyda'r Prif Weithredwr, Stephen Vickers.
Mae'r prentisiaid, sydd i gyd yn byw yn y Fwrdeistref, yn rhan o raglen Datblygu Gyrfa'r Cyngor, lle mae mwy na 100 o weithwyr yn hyfforddi ac yn gweithio tuag at gymwysterau newydd.
Mae Lucy Attwood, o Bontnewynydd, yn brentis gyda'r tîm gwasanaethau tai.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd yn gweithio ar draws amrywiaeth o dîmau gwahanol wrth astudio am Dystysgrif ym maes Tai.
Meddai: "Mae'n gyfle gwych i ddysgu wrth ennill profiad amhrisiadwy.
"Mae pawb yn y tîm wedi bod mor groesawgar ac wedi gwneud i mi deimlo'n gartrefol wrth i fi ddechrau yn y rôl. Mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’w rhannu ac rydw i wedi gallu cymryd llawer oddi wrth hynny yn barod. Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod o fewn fy rôl, ac at ddatblygu'n broffesiynol o fewn y maes."
Ochr yn ochr â Lucy, roedd Jasmine Ward, prentis rheoli prosiectau; Lacy Russell, prentis gweinyddu busnes; Nia Price, prentis systemau a pherfformiad a Iestyn Kerr, prentis cyllid.
Croesawodd y Prif Weithredwr, Stephen Vickers, y prentisiaid a dymunodd bob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer gyrfa hir ym maes gwasanaethau cyhoeddus.
Yna, cafodd y prentisiaid sesiwn holi ac ateb cyflym ar ôl i'r Prif Weithredwr amlinellu ei lwybr gyrfa lliwgar ei hun a'r rôl bwysig fydd gan y prentisiaid wrth helpu’r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau.
Bydd y grŵp nesaf o brentisiaid yn cael eu recriwtio ar ôl arholiadau'r ysgolion yn yr haf.
Am ragor o wybodaeth am brentisiaethau gwag, ewch i dudalen swyddi'r Cyngor.
Chwilio am swydd