Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025
Ymgasglodd busnesau a grwpiau cymunedol ddydd Gwener i ddathlu wrth i Dorfaen ennill gwobr arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU.
Cyflwynwyd y wobr i'r Fwrdeistref y llynedd am ei gwaith i gynyddu argaeledd bwyd lleol a hyrwyddo dietau cynaliadwy ac iach.
Ymunodd mwy na 60 o bobl o blith cynhyrchwyr bwyd, cyflenwyr, prosiectau tyfu cymunedol, sefydliadau'r trydydd sector ac ysgolion, â thîm gwytnwch bwyd y cyngor i drafod yr hyn sydd wedi gweithio, a mentrau yn y dyfodol.
Roedd y digwyddiad yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon yn cynnwys cyflwyno gwobrau, cinio rhwydweithio a chyd-greu'r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd.
Ar y dydd, dangoswyd Coffi Kitoko, Gardd Gymunedol Clwb Pêl-droed Forgeside, Sero Wastraff Torfaen, Welsh General Store, Himalayan Bites a Phantri Bwyd Hope for the Community fel enghreifftiau o’r ffyrdd y mae’r bartneriaeth a'i chyllid yn helpu i newid bywydau.
Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi datblygu Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Torfaen, sef partneriaeth arloesol sy'n cynnwys sefydliadau'r sector cyhoeddus, busnesau, grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol ac ysgolion. Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn hanfodol er mwyn datblygu rhwydweithiau a marchnadoedd newydd ar gyfer bwyd iach sydd wedi cael ei dyfu’n lleol a’i gynhyrchu’n lleol ac sy’n gost-effeithiol.
"Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y Bartneriaeth yn datblygu ac yn gweithio tuag at ennill statws aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy’r DU."
Mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Torfaen wedi cael ei chefnogi gan Raglen Gwydnwch Bwyd Torfaen y Cyngor, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Llywodraeth Cymru.
Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae'r rhaglen wedi darparu grantiau i helpu busnesau i ddatblygu ac arallgyfeirio ac i helpu sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu atebion cynaliadwy ar gyfer tlodi bwyd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r Rhaglen Gwydnwch Bwyd neu cysylltwch â Food4Growth@torfaen.gov.uk
Mae'r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn bartneriaeth rhwng y Soil Association, Food Matters a Sustain. Caiff ei hariannu gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae'n cefnogi lleoedd i drawsnewid diwylliant bwyd.