Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Mawrth 2025
Mae perchennog becws o Gwmbrân wedi ei gael yn euog o dorri rheolau hylendid bwyd.
Plediodd Robert Iggulden o Greenmeadow Bakery yng Nghwmbrân yn euog i dri achos o dorri gofynion hylendid bwyd, yn dilyn archwiliad hylendid bwyd rheolaidd.
Ddydd Iau 13 Mawrth, ymddangosodd Mr Iggulden gerbron Llys Ynadon Cwmbrân wedi'i gyhuddo o fethu â chadw'r safle'n lân, methu â diogelu bwyd rhag risg o halogiad, a methu â gweithredu mesurau rheoli diogelwch bwyd yn effeithiol.
Dywedodd yr Ynadon eu bod yn bryderus i glywed am yr hanes hir o amodau hylendid bwyd gwael yn y becws, gan gynnwys euogfarn flaenorol. Aethant ymlaen i ddedfrydu Mr Iggulden i ddirwy o £2,048 a gordal dioddefwr o £819. Dyfarnwyd cyfraniad o £1,436 i'r Cyngor hefyd tuag at ei gostau. Cafodd Mr Iggulden orchymyn i dalu £4,303.
Cynhaliodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor arolygiad rheolaidd ym mis Ionawr 2024, a chanfuwyd bod y safle mewn cyflwr brwnt, a bod bwyd yn cael ei baratoi, ei storio a'i arddangos dan amodau aflan.
Adroddodd swyddogion fod baw a malurion wedi cronni tu ôl i’r offer ac oddi tanynt, ar silffoedd ac arwynebau gwaith a thu mewn i oergelloedd.
Fe ddaethon nhw o hyd i bentwr mawr o fara a bisgedi hen ar y llawr mewn un gornel o'r becws, a oedd yn cael eu defnyddio i amsugno dŵr a oedd yn gollwng o'r tu allan.
Roedd llwydni a baw hefyd y tu mewn i'r siliau ffenestri, roedd staeniau trwm ar y waliau, ac roedd gwe pry cop a phry cop yn hongian o nenfydau.
Bu'n rhaid taflu nifer o roliau a baratowyd ymlaen llaw a oedd yn cael eu cadw mewn oergell ddiffygiol, a oedd ddim yn gweithio ar dymheredd diogel a chyfreithiol, yn ystod yr archwiliad.
Oherwydd yr amodau gwael, a'r risgiau a gyflwynwyd i ddiogelwch bwyd, caewyd y safle ar unwaith a rhoddodd swyddogion gyfarwyddyd i Mr Iggulden i lanhau’r safle’n ddwfn ac yn drylwyr, cyn y gallai ei ailagor.
Caniatawyd i'r busnes ailddechrau masnachu ar ôl i dîm o gontractwyr proffesiynol dreulio wythnos yn glanhau’r safle ac yn cael gwared ar annibendod. Gosodwyd oergell newydd yn lle’r oergell ddiffygiol hefyd.
Oherwydd difrifoldeb y tramgwyddau, rhoddwyd sgôr hylendid bwyd o 0 allan o 5 i’r safle, gan nodi bod angen gwelliannau brys, a chychwynnwyd achos cyfreithiol.
Cynhaliwyd archwiliad dilynol ym mis Gorffennaf 2024 a rhoddwyd sgôr hylendid o 2 i'r becws, gan nodi bod angen rhai gwelliannau o hyd. Mae swyddogion yn parhau i ymweld ac i weithio gyda'r perchennog i sicrhau cydymffurfiaeth, yn ôl yr angen.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd: "Mae'r achos hwn yn dangos gwaith pwysig gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor wrth gynnal archwiliadau hylendid bwyd. Mae'n dangos y camau gweithredu cyflym a gymerir os canfyddir bod safleoedd bwyd mewn cyflwr sy'n beryglus i ddefnyddwyr.'
"Rwy'n gobeithio y bydd yr achos hwn yn tawelu meddwl defnyddwyr ein bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddiogelwch bwyd yn Nhorfaen, a hoffwn ddiolch i swyddogion am weithredu mor gadarn ac am ddod â'r mater hwn gerbron y llys."
Os oes unrhyw bryderon gennych am safonau diogelwch bwyd a hylendid mewn siop decawê, bwyty neu fusnes bwyd arall, cysylltwch â ni drwy ffonio'r Tîm Diogelu Bwyd ac Iechyd ar 01633 648009 neu trwy anfon neges trwy e-bost i: foodandhealthprotection@torfaen.gov.uk
Cewch ragor o wybodaeth am sgoriau hylendid bwyd yma