Parc chwarae cynhwysol newydd yn agor

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19 Chwefror 2025
20250217_105530

Mae gwaith i drawsnewid darn o dir diffaith ym Mhontnewynydd i greu parc chwarae cynhwysol, wedi cael ei gwblhau. 

Yr wythnos hon, daeth plant o feithrinfa Osborne Lodge a chynrychiolwyr canolfan ddydd Tŷ Nant Ddu i bobl ag anableddau i’r agoriad, lle cawsant gyfle i roi cynnig ar yr offer chwarae newydd. 

Nod y parc yw mynd i'r afael â chanfyddiadau asesiad digonolrwydd chwarae yn 2022, a nododd bod diffyg offer chwarae i blant ag anghenion arbennig yng ngogledd y fwrdeistref.  

Mae'r offer chwarae newydd yn cynnwys, tair uned chwarae amrywiol gyda sleid lydan, dwy siglen grud, siglen fasged, siglen tango, si-so, rowndabowt cynhwysol, asyn ar sbringiau, eitemau synhwyraidd a cherddorol, ac anifeiliaid 3D.  

Cafodd y parc ei greu diolch i bron i £1.2 miliwn o gyllid gan Grant Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae’r gronfa hon hefyd yn cefnogi amrywiol brosiectau ledled Torfaen, fel gwella hygyrchedd fel y gall bobl anabl gael mynediad at Barc Blodau Blaenafon, creu ardal gemau amrywiol newydd ym Mharc Pontnewydd, a chynllunio campfa awyr agored newydd yng Nghwmbrân. 

Dywedodd Lisa Jones, Rheolwr Meithrinfa Osborne Lodge: "Cafodd y plant amser hyfryd ddoe yn rhoi cynnig ar yr offer chwarae newydd.  

“Mae'n wych bod y parc o fewn cerdded i ni - byddwn yn bendant yn mynd yno ar ddiwrnodau sych. 

“Mae mynd allan â’r plant yn yr awyr iach yn wych i’w lles ac yn ffordd ardderchog o losgi egni.” 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Roedd yn hyfryd gweld y plant yn mwynhau'r ardal chwarae a'r offer newydd ddydd Llun. 

“Dyma'r man chwarae cyntaf yn Nhorfaen i gael siglen tango sy'n caniatáu i blentyn a gwarcheidwad gael tro gyda'i gilydd. Roedd gweld wynebau'r plant yn goleuo wrth ddefnyddio'r darn yma o offer yn ddigon i gynhesu’r galon. 

“Mae mannau chwarae a pharciau yn cynnig cymaint o fanteision i blant, yn cynnwys hyrwyddo gweithgarwch corfforol, hybu sgiliau cymdeithasol, meithrin hunan-barch, datblygu sgiliau symud ac annog creadigrwydd.” 

Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at Gynllun Sirol y cyngor sy'n ceisio cefnogi a hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw yn Nhorfaen i wella llesiant meddyliol a chorfforol. 

Diwygiwyd Diwethaf: 19/02/2025 Nôl i’r Brig