Gallai gwarchodfa natur leol ehangu

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Mawrth 2025
Coed Meyric 1

Mae gobaith y gallai gwarchodfa natur leol yng Nghwmbrân gael ei hehangu yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Defnyddiwyd yr arian i brynu dôl tair erw ac ardal goetir ger Gwarchodfa Natur Leol Henllys.

Mae’r gwaith wedi dechrau i wella bioamrywiaeth yng Nghoed Meyric Moel, gan gynnwys plannu perthi newydd a datblygu coridorau bywyd gwyllt naturiol.

Ddoe, adeg gweithdy a gynhaliwyd gan grŵp coetir cymunedol Llais y Goedwig nodwyd 10 rhywogaeth o goed ar y safle, yn cynnwys gwern, ynn, ffawydd, bedw, derw, sycamorwydd, helyg, drain gwynion, cyll a chelyn, a phlanhigion yn cynnwys clychau'r gog, eiddew blodeuog, rhedyn breision, llygaid Ebrill, blodau’r gwynt, a mwsoglau amrywiol.  

Mae cynlluniau ar y gweill i greu llwybrau sy'n arwain at Warchodfa Natur Leol Henllys yn ogystal â llwybr natur, a hynny gyda chymorth Able, yng Nghwmbrân, sefydliad sy'n cefnogi pobl anabl.  

Y gobaith yw y gall y cyngor wneud cais i Gyfoeth Naturiol Cymru ymgorffori'r safle yn y warchodfa natur leol yn y dyfodol. 

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Bartneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen, sydd eleni yn dathlu 25ain mlynedd ers ei sefydlu.   

Ddydd Mawrth, cyflwynwyd Gwobr Ddinesig y cyngor i'r bartneriaeth i gydnabod eu gwaith. 

Dywedodd Veronika Brannovic, cydlynydd y prosiect: "Yn flaenorol roedd yr ardal yn eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, felly mae eisoes yn gartref i lawer o rywogaethau, yn cynnwys cydymaith y bwrned, gloÿnnod gwyn cleisiog a phlanhigion yn cynnwys troed yr aderyn a dail twrw.

"Rydym yn gobeithio y bydd yn denu rhywogaethau newydd ac mae’n adnodd gwerthfawr sy’n caniatáu i’r gymuned leol gysylltu â natur, naill ai drwy wirfoddoli, mynychu gweithdai neu dreulio amser yno."

Bydd ail weithdy yn cael ei gynnal ddydd Iau 13 Mawrth, rhwng 10am ac 1pm. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch veronika.brannovic@torfaen.gov.uk.

Dysgwch mwy am Warchodfeydd Natur Lleol yn Nhorfaen a sut rydyn ni'n helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd drwy gadwraeth natur

I gymryd rhan mewn cadwraeth natur, cliciwch yma: https://bgtorfaenlnp.wales/en/

Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2025 Nôl i’r Brig