Derbyn i Ysgolion - Dosbarthiadau Meithrin

Trosolwg

Mae 15 dosbarth meithrin cyfrwng Saesneg, pedwar cyfrwng Cymraeg a dau ddosbarth meithrin mewn ysgolion ffydd yn cael eu rheoli gan y cyngor, ochr yn ochr â nifer o feithrinfeydd yn y sector preifat a gwirfoddol.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am leoliadau meithrin yr awdurdod lleol yn ein Llyfryn Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr 2025/2026.

Cymhwysedd

Gall plentyn ddechrau yn y meithrin o ddechrau'r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed os oes lleoedd ar gael.

Cynigir lleoedd rhan-amser (sesiynau bore neu brynhawn yn unig), bum diwrnod yr wythnos.

Plant sy’n codi’n 3 oed

Gall plant sy'n troi'n dair oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr wneud cais i ddechrau yn y meithrin ym mis Ionawr.

Gall plant sy'n troi'n dair oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth wneud cais i ddechrau yn y meithrin ym mis Ebrill.

Derbyn i ddosbarth meithrin

Gall plant sy'n dair oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, a'r rhai na wnaeth gais am le i blant sy’n codi’r 3 oed, wneud cais i ddechrau yn y meithrin y mis Medi canlynol.

Gwneud cais

Dim ond un ffenestr ymgeisio sydd ar gael ar gyfer lleoliadau meithrin ac i blant sy’n Codi’n 3 oed.

Ceisiadau Hwyr 2025

Mae'r dyddiad cau ar gyfer lleoliadau ym mis Ionawr 2025, Ebrill 2025 a Medi 2025 bellach wedi mynd heibio, ond mae dal cyfle i chi gyflwyno cais hwyr.

Noder: Ni fyddwn yn derbyn cais am le mewn meithrinfa heb dystiolaeth o ddyddiad geni.

I wneud cais hwyr am le meithrin ar gyfer lleoliadau yn 2025, lawr lwythwch a llenwch Ysgol Feithrin – Ffurflen Dderbyn 2025 a’i dychwelyd i school.admissions@torfaen.gov.uk

Ceisiadau Hwyr 2024

I wneud cais hwyr am le yn y meithrin ar gyfer mis Medi 2024, lawr lwythwch a llenwch Ysgol Feithrin – Ffurflen Dderbyn 2024 a’i dychwelyd i school.admissions@torfaen.gov.uk

Dyddiadau Derbyn 2026

Ar gyfer lleoliadau ym mis Ionawr 2026, Ebrill 2026 a Medi 2026:

  • Bydd y broses ymgeisio ar-lein yn mynd yn fyw Dydd Llun 9 Mehefin 2025 (9am)
  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Gwener 18 Gorffennaf 2025 (5 hanner dydd)
  • Cynnig lleoedd - Dydd Llun 15 Medi 2025 (Medi 2026 plant 4-blwydd-oed a Ionawr 2026 plant sy’n codi’n 3)
  • Cynnig lleoedd – Dydd Gwener 30 Ionawr 2026 (Ebrill i blant sy’n Codi’n 3)

Cyswllt

I gael gwybodaeth am feithrinfeydd a gynhelir cysylltwch ar school.admissions@torfaen.gov.uk neu 01495 766915.

FI gael mwy o wybodaeth am dderbyn i gylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Preifat, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen ar 08000 196330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk.

Mae manylion am y Cynnig Gofal Plant i Gymru (30 awr o Ofal Plant) ar gael yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyniadau ysgol

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig