Derbyn i Ysgolion - Ysgolion Cynradd (Dosbarth Derbyn)
Trosolwg
Mae 17 ysgol cyfrwng Saesneg, pedair ysgol cyfrwng Cymraeg a pum ysgol ffydd yn cael eu rheoli gan y cyngor yn Nhorfaen.
Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn Nhorfaen gyfrifoldeb am eu trefniadau derbyn eu hunain a rhaid gofyn am ffurflenni cais yn uniongyrchol o'r ysgol a'u dychwelyd i'r ysgol o'ch dewis.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cynradd yr awdurdod lleol yn ein Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr 2025/2026.
Cymhwysedd
Mae plant fel arfer yn dechrau yn yr ysgol gynradd ar ddechrau’r flwyddyn ysgol y maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn bump oed (h.y. 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol).
Gwneud Cais
Derbyn ym mis Medi 2025
Mae'r dyddiad cau ar gyfer lleoliadau ym mis Medi 2025 bellach wedi mynd heibio, ond mae dal cyfle i chi gyflwyno cais hwyr.
- Dyddiad penderfynu ar geisiadau sydd ar amser – Dydd Mercher 16 Ebrill 2025
Ceisiadau hwyr - 2025
I wneud cais hwyr am le mewn dosbarth derbyn ym mis Medi 2025 lawr lwythwch a llenwch y Ffurflen derbyn i Ysgol Gynradd a’i dychwelyd i school.admissions@torfaen.gov.uk
Dyddiadau Derbyn 2026
- Bydd y cais ar-lein yn fyw Dydd Iau 13 Tachwedd 2025 (9am)
- Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Iau 15 Ionawr 2026 (5 hanner dydd)
- Cynnig lleoedd – Dydd Iau 16 Ebrill 2026*
Cysylltu
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01495 766915 neu e-bostiwch school.admissions@torfaen.gov.uk.
Os ydych am wneud cais am ysgol y tu allan i Dorfaen, bydd angen i chi gysylltu â'ch Awdurdod Cartref i ofyn am gyngor ar sut i wneud cais.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn am drefniadau Derbyn yr Awdurdod a materion cysylltiedig, fel darparu cludiant ysgol yn Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr 2025/2026.
Diwygiwyd Diwethaf: 10/04/2025
Nôl i’r Brig