Derbyn i Ysgolion - Ysgolion Uwchradd

Trosolwg

Mae pedair ysgol cyfrwng Saesneg, un cyfrwng Cymraeg ac un ysgol ffydd yn cael eu rheoli gan y cyngor yn Nhorfaen.

Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn Nhorfaen gyfrifoldeb am eu trefniadau derbyn eu hunain a rhaid gofyn am ffurflenni cais yn uniongyrchol o'r ysgol a'u dychwelyd i'r ysgol o'ch dewis.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cynradd yr awdurdod lleol yn ein Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr 2025/2026.

Cymhwysedd

Mae plant fel arfer yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar ddechrau’r flwyddyn ysgol y maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn ddeuddeg oed (hy 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol).

Gwneud Cais

Derbyn ym mis Medi 2025

Mae'r dyddiad cau ar gyfer lleoliadau ym mis Medi 2025 bellach wedi mynd heibio, ond mae dal cyfle i chi gyflwyno cais hwyr.

  • Dyddiad penderfynu ar geisiadau sydd ar amser – Dydd Llun 3 Mawrth 2025

Ceisiadau hwyr - 2025

I wneud cais hwyr am le mewn Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2025 lawr lwythwch a llenwch y Ffurflen derbyn i Ysgol Uwchradd a’i dychwelyd i school.admissions@torfaen.gov.uk

Dyddiadau Derbyn 2026

  • Bydd y ffurflen gais ar-lein yn fyw Dydd Gwener 19 Medi 2025 (9.00 am)
  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Gwener 31 Hydref 2025 (5 hanner dydd)
  • Cynnig lle - Dydd Llun 2 Mawrth 2026*

Cysylltu

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01495 766915 neu e-bostiwch school.admissions@torfaen.gov.uk.

Os ydych am wneud cais am ysgol y tu allan i Dorfaen, bydd angen i chi gysylltu â'ch Awdurdod Cartref i ofyn am gyngor ar sut i wneud cais.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am drefniadau Derbyn yr Awdurdod a materion cysylltiedig, fel darparu cludiant ysgol yn Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr 2025/2026

Diwygiwyd Diwethaf: 10/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyn i Ysgolion

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig