Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Ebrill 2025
Yn ystod mis Mawrth, cynhaliodd Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ei hymweliad monitro diweddaraf ag Ysgol Uwchradd Cwmbrân i fonitro'r cynnydd ers yr arolygiad craidd.
Mae'r tîm o arolygwyr wedi rhoi’r farn fod Ysgol Uwchradd Cwmbrân wedi gwneud digon o gynnydd mewn ymateb i'r argymhellion, yn dilyn yr arolygiad craidd diweddaraf.
Yn ganlyniad, mae Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn tynnu'r ysgol oddi ar y rhestr o ysgolion ag angen mesurau arbennig. Cyhoeddwyd yr adroddiad llawn ar wefan Estyn ar Ysgol Uwchradd Cwmbrân - Estyn
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Mae hyn yn newyddion i'w groesawu ac mae'n dilyn cydnabyddiaeth Estyn fod y Cyngor yn gwella o ran rheoli perfformiad, arweinyddiaeth strategol a chanlyniadau ein holl ddysgwyr, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.
"Hoffwn ddiolch i bawb yn yr ysgol ac yn y gwasanaeth addysg am eu gwaith caled ac am gymryd cam sylweddol arall ymlaen ar hyd y daith yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân."
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae hwn yn newyddion gwych ac yn dyst i waith caled cymuned gyfan yr ysgol a'r buddsoddiad a wnaed yn yr ysgol hon.
"Mae arolygwyr wedi nodi llawer o welliannau cyffyrddadwy mewn meysydd allweddol ers yr arolygiad craidd, a bydd y Cyngor nawr yn sicrhau bod y cynnydd hwn yn parhau trwy ein goruchwyliaeth barhaus a’n gwaith i gynllunio gwelliannau pellach.
"Mae'r dyhead yn heintus ac mae'r Pennaeth, gyda chefnogaeth ei dîm arwain, wedi sefydlu gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer gwella’r ysgol a sicrhau newid cadarnhaol yn niwylliant yr ysgol gyfan. Bydd y newyddion yn codi dyheadau hyd yn oed yn uwch ymhlith disgyblion a staff."
Meddai Pennaeth Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Matthew Sims: "Rydyn ni wrth ein boddau fod gwaith caled ein staff a'n disgyblion, eu hymroddiad a’u hymrwymiad, wedi ein harwain at y pwynt hwn; dyma ddechrau ar bethau mwy a gwell i'n pobl ifanc wrth i ni ymdrechu’n llawn pwrpas tuag at lwyddiannau’r dyfodol."
Meddai Cadeirydd y Llywodraethwyr, John Healy: "Mae ein corff llywodraethu newydd wrth ei fodd fod Estyn wedi cydnabod y cynnydd sylweddol y mae'r ysgol wedi'i wneud, ac rydym yn arbennig o falch o'r ffordd y mae pawb wedi tynnu at ei gilydd a chodi safonau."
Nododd d yr arolygwyr:
- Welliant yn safonau sgiliau disgyblion, yn enwedig eu hysgrifennu, a'u rhifedd.
- Bod disgyblion yn cael eu herio'n dda gan eu hathrawon i wneud cynnydd cryf yn eu dysgu.
- Arweinyddiaeth fugeiliol gryfach sydd wedi gwella ymddygiad disgyblion, eu hymgysylltiad mewn gwersi a’u presenoldeb.
- Ffocws yr ysgol ar wella sgiliau, cydnerthedd a dyfalbarhad disgyblion yn eu dysgu.
- Diwylliant o ddarllen a mwynhau darllen, a datblygu geirfa disgyblion.
- Ffocws clir ar wella sgiliau rhifedd y disgyblion a gwella’r ffordd o addysgu mathemateg.
- Ffocws clir ar wella’r addysgu, gydag athrawon yn elwa ar ystod eang o ddysgu proffesiynol.
- Disgwyliadau cynyddol uchel athrawon o'u disgyblion, gyda gwersi wedi'u strwythuro'n ofalus i sicrhau cyflymder dysgu da.
- Gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer gwella’r ysgol ac ymrwymiad i wella’n barhaus.
- Mae'r corff llywodraethu newydd yn rhoi cefnogaeth werthfawr a lefelau addas o her i uwch-arweinwyr.
- Mae llywodraethwyr yn dod yn fwyfwy effeithiol wrth ddal arweinwyr i gyfrif, yn enwedig mewn perthynas â blaenoriaethau gwella'r ysgol.
Daw'r newyddion wrth i gais cynllunio gael ei gyflwyno ar gyfer adeiladu maes 3G newydd yn yr ysgol yn nes ymlaen eleni.
Cydnabod gwelliant sylweddol mewn Gwasanaethau Addysg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen