Cymeradwyo buddsoddiad ysgolion, strydoedd a gofal cymdeithasol ar gyfer 2025/26

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 4 Mawrth 2025

Heddiw, cymeradwyodd Cyngor Torfaen ei gyllideb ar gyfer 2025/2026, gan nodi ei gynllun ariannol tymor canolig a gosod treth y cyngor ar gyfer 2025/2026.

Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru yn amlinellu bwlch ariannol o £9.169m dros y pedair blynedd nesaf.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt: "Mae'r gyllideb ar gyfer 2025/26 wedi'i pharatoi gyda chefndir o bwysau galw mawr a chynnydd costau ar draws ein gwasanaethau.

"Mae'r arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a’r ffaith ein bod wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd mewnol wedi gwella ein sefyllfa ariannol ac yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda i gyflawni blaenoriaethau allweddol y flwyddyn nesaf."

Cyllideb net 2025/26 y cyngor yw £248.5m, gyda £192.2m yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod cyfarfod o’r cyngor llawn, dywedodd y Cyng. Hunt fod y cyngor wedi derbyn cynnydd o 4.8% yn y setliad gan Lywodraeth Cymru, ynghyd ag arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am y dyfarniad cyflog cenedlaethol i staff.

Mae'r adroddiad sy'n amlinellu cyllideb Torfaen yn cynnwys:

  • Cynnydd o £6.7 miliwn yn y gyllideb i ysgolion neu 8.6%
  • O leiaf £3m o waith atgyweirio priffyrdd dros y ddwy flynedd nesaf i fyny at gyfanswm o £5m dros y pum mlynedd nesaf.
  • £800,000 arall ar gyfer Ysgol Arbennig Crownbridge; gan wneud cyfanswm o £1.26m o fuddsoddiad.
  • £800,000 i fodloni'r pwysau o’r galw am gludiant ysgol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Cynnydd o 5% i ddarparwyr Gofal Cymdeithasol i gydnabod effaith y Cyflog Byw Gwirioneddol.
  • £1m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
  • £1m yn ychwanegol i drawsnewid Gwasanaethau Plant a thalu costau gofal yn 2025/26 a 26/27, gan arwain at ostyngiad net erbyn 2027/28.
  • Cydnabod yr effaith ar ddarparwyr gofal cymdeithasol o gynnydd o 5% yn y CyflogByw Gwirioneddol.
  • £3m yn ychwanegol i dalu am gynnydd  mewn cyflog staff a phensiynau.
  • £250,000 i barhau â'r cynllun cyflogaeth a phrentisiaid i’r r heiny sy'n gadael yr ysgol.
  • £304,000 ychwanegol i'r Fferm Gymunedol a fydd yn ailagor yn 2025 yn dilyn y buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar y safle.
  • Mae'n buddsoddi £227,000 mewn Tîm Addysg a Gorfodaeth Gwastraff i wella ymddygiad ailgylchu a chynnal casgliadau bob pythefnos.

Bydd Treth y Cyngor yn cynyddu 4.95% i £1,627.32 ar gyfer eiddo Band D neu gynnyddblynyddol o £76.75 y flwyddyn neu £1.48 yr wythnos.

Ychwanegodd y Cyng. Hunt: "Mae'r gyllideb hon yn canolbwyntio buddsoddiad ar ysgolion, gofal cymdeithasol a'r strydoedd lle mae pobl yn byw, a bydd yn diogelu gwasanaethau lleol hanfodol tra'n parhau i gadw biliau treth y cyngor mor isel â phosibl.

“Ar yr un pryd â chynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau, dyma'r bedwaredd flwyddyn i ni osod un o'r codiadau treth gyngor isaf yng Nghymru wrth i ni gydnabod bod llawer o aelwydydd yn cael trafferth gyda biliau. Er mwyn helpu trigolion rydym wedi cadw cyllid ar gyfer ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor sy'n cefnogi bron i 10,000 o gartrefi ar incwm isel.

"Yn ogystal, mae tua £29 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y flwyddyn nesaf, gan gynnwys arian ar gyfer ysgolion, ffyrdd a grantiau cyfleusterau anabl i helpu pobl i aros yn eu cartrefi."

I weld yr adroddiad llawn, ewch i Agenda Council ar 4ydd Mawrth, 2025

Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2025 Nôl i’r Brig