Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19 Mawrth 2025
Ddoe, ymunodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, â dros 50 o sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru i lofnodi Siarter arbennig yn gyhoeddus. Mae’r Siarter yn eu hymrwymo i ymateb i drasiedi gyhoeddus yn agored a gyda thryloywder ac atebolrwydd.
Mae'r Siarter i Deuluoedd Mewn Profedigaeth oherwydd Trasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth. Mae’n sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o drychineb Hillsborough yn 1989, a'r cyfnod ar ôl y drychineb, yn cael eu dysgu, er mwyn atal y rheiny y mae trasiedi gyhoeddus yn effeithio arnynt yn y dyfodol rhag cael yr un profiad.
Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a gwasanaethau tân ac achub, i gyd wedi addo cefnogi teuluoedd mewn profedigaeth, a'r gymuned, yn dilyn digwyddiad mawr. Maen nhw wedi gwneud ymrwymiad clir i’r bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion cyn yn digwyddiad, yn ystod y digwyddiad ac ar ei ôl.
Cynhaliwyd y digwyddiad lansio ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth (18 Mawrth), ac roedd yr Esgob James Jones KBE, a ysgrifennodd y Siarter yn rhan o'i adroddiad am wersi o drasiedi Hillsborough, y bresennol. Hefyd yn bresennol oedd pobl a oedd wedi cael profedigaeth oherwydd trasiedïau cyhoeddus ac wedi eu goroesi, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion ac Aberfan, sydd ychydig filltiroedd yn unig o safle'r lansio.
Meddai’r Esgob Jones: "Heddiw, mae cenedl Cymru yn arwain y ffordd gyda dros 50 o'i chyrff cyhoeddus yn llofnodi'r Siarter. Trwy wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o'r newydd i wasanaethu’r cyhoedd ac i barchu dynoliaeth y rheiny yr ydym wedi ein galw i’w gwasanaethu.
"Mae'r Siarter yn addewid na fydd neb yn cael ei adael i ddelio â’i alar ar ei ben ei hun ar ôl unrhyw drasiedi yn y dyfodol ac na fydd neb yn dioddef eto ‘anianawd nawddoglyd pŵer heb atebolrwydd'.
"Mae hon yn foment dyngedfennol ym mywyd y genedl wrth i ni gofleidio egwyddorion y Siarter ac addo parchu dynoliaeth ei holl ddinasyddion a ddylai fod wrth wraidd pob gwasanaeth cyhoeddus."
Meddai Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Trwy fabwysiadu'r Siarter hon ac anrhydeddu ei hegwyddorion, bydd gennym sylfaen ar gyfer cefnogi teuluoedd mewn profedigaeth, a'r gymuned, ar ôl digwyddiad mawr.
Mae'r Siarter yn dangos ein hymrwymiad i roi mwy o ffocws ar bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl cyn digwyddiad mawr, yn ystod digwyddiad mawr ac ar ei ôl, i sicrhau bod dioddefwyr, goroeswyr a theuluoedd yn cael y gefnogaeth foesegol ac empathetig y maen nhw’n ei haeddu. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi llofnodi’r Siarter yn gyhoeddus gyda chymeradwyaeth unfrydol yr holl gynghorwyr yn Siambr y Cyngor, mewn arwydd arbennig o gefnogaeth."
Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis: "Trwy lofnodi'r Siarter, mae pob sefydliad yn gwneud datganiad cyhoeddus i ddysgu’r gwersi a ddysgwyd o drychineb Hillsborough, a thrasiedïau eraill, er mwyn sicrhau nad ydym byth yn colli golwg ar bersbectif teuluoedd mewn profedigaeth, a’n bod yn sicrhau eu bod yn cael eu trin â gofal a thosturi, ar adeg yr argyfwng a’r trasiedi, a hefyd yn ystod yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd wedi hynny.
"Er bod heddiw yn garreg filltir, yr her go iawn yw sefydlu’r Siarter yn gadarn yn ein hyfforddiant a'n diwylliant, fel ei bod yn dod yn rhan annatod o'n hymateb i unrhyw drasiedi gyhoeddus.
"Mae cyfranogiad y rheiny sydd wedi cael profedigaeth oherwydd trasiedi gyhoeddus, a’r rheiny sydd wedi goroesi, wedi bod yn ysgogiad mawr i sicrhau’r cam pwysig hwn ymlaen heddiw."