Gwirfoddoli amgylcheddol

Mae llawer o grwpiau gwirfoddol sy'n helpu i ofalu am ein hamgylchedd lleol. 

I gael gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, ewch i Cysylltu Torfaen neu cysylltwch â’r grwpiau isod.  

Rheoli Ffromlys 

Ymunwch â'r tîm Partneriaeth Natur Leol sy’n helpu i fynd i'r afael â Ffromlys ymledol. Cysylltwch â kristen.thobroe@torfaen.gov.uk 

Coedwig Gymunedol Blaen Bran 

Helpwch i gynnal y safle 100 erw drwy gofrestru fel gwirfoddolwr neu beth am fwrw golwg ar y calendr digwyddiadau. Ewch i wefan Coedwig Gymunedol Blaen Bran

Gwirfoddolwyr Amgylcheddol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Mae gwirfoddolwyr yn cynnal gweithgareddau ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ac mae croeso i aelodau newydd. Cysylltwch ar bwheg@hotmail.co.uk neu rhowch glic ar dudalen Facebook Gwirfoddolwyr Amgylcheddol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.

Grŵp Camlas Pont 46 i Bum Loc 

Mae’r grŵp yn trefnu gweithgor gwirfoddol unwaith y mis, fel arfer ar fore Sul.  Maen nhw hefyd yn trefnu digwyddiadau i ddathlu'r gamlas a dangos ei gwerth, yn ogystal ag ymgyrchu dros y gamlas drwy gydol y flwyddyn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i  dudalen Facebook Grŵp Camlas Pont 46 i Bum Loc 

Cyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Henllys

Mae gwirfoddolwyr yn gwarchod ac yn gwella Gwarchodfa Natur Leol Henllys er budd bywyd gwyllt, trigolion ac ymwelwyr. Maent yn cwrdd yn rheolaidd i gwblhau amrywiaeth o weithgareddau cadwraeth. Ewch i dudalen Facebook Cyfeillion GNL  Henllys

Cadwch Dorfaen yn Lân – Gwanwyn Glân Torfaen

Bob mis Mawrth, mae swyddog sbwriel a thipio anghyfreithlon y cyngor yn trefnu salw digwyddiad casglu sbwriel ledled Torfaen. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag  oliver.james@torfaen.gov.uk 

Ymddiriedolaeth Camlas Mynwy, Aberhonddu a'r Fenni

Mae'r grŵp fel arfer yn cwrdd ar ddydd Sadwrn ac mae’r tasgau yn cynnwys rheoli cynefinoedd a chynnal a chadw strwythurau’r lociau sydd wedi cael eu hadfer yn Nhŷ Coch. I gael mwy o wybodaeth ewch i mbact.org.uk/volunteering-opportunities

Tasglu Pont-y-moel

Mae Hannah Cubie, Cydlynydd Cysylltiadau Cymunedol Glandŵr Cymru, yn rhedeg grŵp sy'n ymgymryd â thasgau i ofalu am Fasn Pont-y-moel a llwybr halio’r gamlas. Cysylltwch â Hannah ar hannah.cubie@canalrivertrust.org.uk

Grŵp Gwirfoddoli Camlas Torfaen

Grŵp o wirfoddolwyr sy’n cyfarfod yn fisol yng Nghwmbrân i gasglu sbwriel a rheoli llystyfiant, fel arfer ar ddydd Sul. Cysylltwch â’r ysgrifennydd Hugh Woodford ar heatherhugh@hotmail.com

Grwpiau casglu sbwriel

Dysgwch am gasglu sbwriel cymunedol a materion amgylcheddol drwy ddilyn  grŵp Gwirfoddolwyr Gwyrddach a Glanach Torfaen ar Facebook. Gallwch hefyd gysylltu â swyddog sbwriel a thipio anghyfreithlon y cyngor, Oliver James ar,  oliver.james@torfaen.gov.uk neu lenwi Ffurflen gofrestru i wirfoddolwyr

‘Ceidwaid Campus’ 

Gall gwirfoddolwyr helpu i gynnal a rheoli llwybrau troed, gwarchodfeydd natur lleol a choetiroedd yn y fwrdeistref. I fynegi diddordeb i fod yn un o’r Ceidwaid Campus, e-bostiwch veronika.brannovic@torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Access Team

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig