Adfer Bioamrywiaeth

Mae bioamrywiaeth yn cyfeirio at yr amrywiaeth o blanhigion, pryfed, anifeiliaid, ecosystemau a chynefinoedd mewn ardal.  

Ymhlith y cynefinoedd allweddol yn Nhorfaen mae coetir collddail hynafol, gwlypdiroedd, glaswelltir cyfoethog o rywogaethau a rhos yr ucheldir sy’n gyfoeth o rug.  

Ceir sawl rhywogaeth nodedig yn Nhorfaen, gan gynnwys:  

  • Tua 20 o rywogaethau sydd o flaenoriaeth yn y DU
  • 136 o rywogaethau y mae eu lefelau poblogaeth yn achosi pryder
  • 40 o rywogaethau o ddiddordeb

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

  • Cyhoeddodd y Cyngor argyfwng Hinsawdd a Natur ar y cyd ym mis Medi 2021. Mae’r Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur yn amlinellu ystod o fesurau i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau lleol
  • Mae ein Cynllun Sirol yn cynnwys Amcan Llesiant i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae cynlluniau cyflawni blynyddol yn amlinellu sut mae hynny'n cael ei gyflawni
  • Mae ein Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a’n Strategaeth Coed yn amlinellu sut yr ydym yn bwriadu gwella a diogelu coed a mannau gwyrdd
  • Bob tair blynedd rydym yn paratoi adroddiad yn nodi sut yr aethom ati i cymhwyso Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau Llywodraeth Cymru - Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau 2020-2022
  • Rydym hefyd wedi llunio cynllun sy'n nodi sut y byddwn yn cydlynu'r gwaith o weithredu'r ddyletswydd bioamrywiaeth ar draws y cyngor
  • Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol cyfagos, Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen a Phartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.

Sut y gallwch chi helpu

  • Gadewch i rannau o’ch gardd dyfu’n fwy gwyllt a chyflwynwch flodau gwyllt
  • Ceisiwch osgoi newid mannau gwyrdd i arwynebau caled nad ydynt yn amsugno dŵr
  • Crëwch dyllau mewn ffensys i alluogi anifeiliaid fel draenogod i symud o gwmpas
  • Tyfwch eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun
  • Cymerwch rhan mewn prosiect perllan cymunedol
  • Cofnodwch fywyd gwyllt yn eich ardal leol a rhannu'r wybodaeth ar System cofnodi Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru ar lein
Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Ecoleg

Ffôn: 01633 648256

Nôl i’r Brig