Partneriaeth Natur Leol
Mae Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen yn dod â chymunedau ynghyd i archwilio, darganfod a rhannu natur ar eu stepen drws.
Mae'r bartneriaeth yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Leol, sy'n arwain penderfyniadau, datblygu prosiectau a gweithredu lleol.
Mae hefyd yn ariannu prosiectau lleol drwy raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Ymhlith y mentrau diweddar mae:
- Plannu miloedd o goed trefol, perllannau a gwrychoedd, fel rhodfa ceirios a pherllan ffrwythau Cymreig ar safle’r Llyn Cychod yng Nghwmbrân.
- Gwella ymylon ffyrdd er mwyn datblygu coridorau naturiol ar gyfer bywyd gwyllt.
- Gerddi cymunedol ar gyfer natur ac i dyfu bwyd, yn cynnwys Ardal Natur Bagley Court, Canolfan Gymuned Bryn Eithin a Ty Box Close, yng Nghwmbrân.
- Rheoli ffromlys – digwyddiadau rheolaidd yn yr haf i helpu i fynd i'r afael â ffromlys ymledol.
Mae'r grŵp hefyd yn cynnal digwyddiad blynyddol ewch yn Wyllt a mentrau yn rhan o’r Wythnos Werdd Fawr ym mis Mehefin, ac Wythnos Natur Cymru ym mis Gorffennaf.
Dilynwch Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen ar Facebook, Instagram ac X neu rhowch glic ar eu gwefan.
Cymryd Rhan
Mae'r bartneriaeth yn cyfarfod bob chwarter. I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf mewn e-bost a gwahoddiadau i gyfarfodydd, cysylltwch â chydlynydd Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen veronika.brannovic@torfaen.gov.uk.
Dysgu mwy am Wirfoddoli Amgylcheddol
Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025
Nôl i’r Brig