Rhywogaethau estron goresgynnol

Mae llawer o rywogaethau estron yn ein hamgylchedd lleol.   

Nid yw rhai yn achosi niwed, ond gall eraill, y gelwir hwy’n rhywogaethau estron goresgynnol, fygwth bioamrywiaeth leol drwy drechu rhywogaethau brodorol a lledaenu clefydau.  

Mae pryder y bydd nifer ac amrywiaeth y rhywogaethau estron yn y DU yn cynyddu oherwydd tywydd mwynach. 

Y rhywogaethau ymledol estron mwyaf cyffredin yn Nhorfaen yw llysiau’r dial a ffromlys, y mae’r ddau yn tyfu’n gyflym iawn ac yn cysgodi planhigion eraill.   

Mae rhywogaethau estron eraill yn cynnwys ceirch cochion, llawr-geirios a chreigafalau.   

Cyfrifoldeb perchennog y tir yw trin rhywogaethau estron goresgynnol neu cael rhywun i’w trin ar eu rhan.  

Mae angen chwistrellu llysiau’r dial neu chwistrellu'r coesau am gwpl o flynyddoedd a dim ond i safle trwyddedig y gellir ei symud. 

Mae'n drosedd plannu rhywogaethau estron goresgynnol yn y DU a gall arwain at gosb uchaf o £5,000 a chwe mis yn y carchar. 

Yr hyn yr ydym yn ei wneud 

  • Mae gennym raglen i waredu ar lysiau’r dial ar dir y cyngor.
  • Pan adroddir bod rywogaeth estron goresgynnol, rydym yn mynd ati i asesu’r rhywogaeth a dod o hyd i’r dechneg orau i waredu arno.

Sut y gallwch chi helpu

  • Rhowch wybod am unrhyw rywogaethau estron goresgynnol trwy wefan Mapper INNS neu lawr lwythwch yr ap.  
  • Ymunwch â gwirfoddolwr Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen sy’n cynnal sesiynau gwaredu ar ffromlys. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â kristen.thobroe@torfaen.gov.uk  
  • Peidiwch â thipio gwastraff o’r gardd.  

Rhoi gwybd am broblem gyda llysiau’r dial

Gwybodaeth ddefnyddiol

Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig