Uwchdiroedd a Mawndiroedd
Mae uwchdiroedd uwchben Blaenafon a safle’r British yn gartref i amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys grug a llus, pyllau a chorsydd.
Pan fyddant yn cael eu rheoli'n gywir, gallant arafu llif y dŵr i’r ardaloedd is a lleihau effaith llifogydd.
Gall mawndiroedd sydd mewn cyflwr da hefyd storio carbon – sy’n cyfrannu’n allweddol at newid hinsawdd.
Maent hefyd yn fannau gwych i fynd am dro mewn amgylchedd godidog a hardd, sy’n dda i lesiant corfforol a meddyliol.
Mae'r cyngor yn arwain prosiect Ucheldiroedd Gwydn De-ddwyrain Cymru sy'n anelu i wella’r ffordd y bydd y, ansawdd y dŵr, cyfleoedd pori, bioamrywiaeth a storio carbon yn cael ei rheoli.
Rhwng mis Tachwedd 2023 a Mawrth 2025, fe wnaethom weithio gyda Heddlu Gwent i fynd i’r afael â gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn yr ardal, sy’n niweidio’r ecosystem leol.
Tir Comin
Mae llawer o'r tir comin yn Nhorfaen yn gynefin rhostir lled-naturiol, gwerthfawr, sydd wedi cael ei reoli gan bobl ers miloedd o flynyddoedd.
Mae pori a rheoli blynyddol, yn cynnwys rheoli rhedyn, torri a llosgi dan reolaeth, i gyd yn elfennau pwysig wrth gadw rhostiroedd yn iach.
Mae gan bob tir comin berchennog. Mae'r mwyafrif yn eiddo i unigolion a sefydliadau preifat. Lle gwyddys nad oes unrhyw un yn berchen ar y tir, mae gan yr awdurdod lleol perthnasol yr hawl i ddiogelu'r tir comin rhag dirywiad neu gael ei gamddefnyddio.
Ffermwyr yw cominwyr fel arfer, sydd â hawl i bori da byw ar y tir. Fodd bynnag, mae'r hawl hon ynghlwm wrth eiddo ac nid unigolyn, a dyna pam mae'r rhan fwyaf o hawliau tir comin ynghlwm wrth ffermydd sydd yn agos at y tir comin.
Mae nifer y da byw, a’r math a ganiateir i bob ffermwr eu troi allan i bori, wedi’i nodi mewn cofrestr tir comin sydd wedi’i rhwymo mewn cyfraith. Dim ond cominwyr cofrestredig sydd â hawliau pori; ni chaniateir i unrhyw un arall roi da byw ar y comin.
Mae'r gofrestr tir comin yn cael ei chadw gan y cyngor.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025
Nôl i’r Brig