Dyfrffyrdd a gwlyptiroedd

Mae gwlyptiroedd ymhlith y cynefinoedd mwyaf amrywiol yn y DU. Maent yn cynnig bwyd a lloches i fywyd gwyllt lleol, yn ogystal ag adar sy'n mudo.

Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer campau dŵr, cerdded a hobïau eraill fel gwylio adar.

Mae ein gwlyptiroedd a'n dyfrffyrdd yn cychwyn yn y bryniau lle mae dŵr yn cael ei ddal mewn corsydd ac yn llifo drwy nentydd i Afon Lwyd.

Yn ne'r fwrdeistref, mae camlas Mynwy ac Aberhonddu yn goridor pwysig yn ecolegol ac ar gyfer hamdden.

Mae dŵr yn cael ei storio mewn sawl pwll a llyn ledled Torfaen, o'r rhai yng Ngwarchodfa Natur Leol Llynnoedd y Garn i'r Llyn Cychod yng Nghwmbrân.

Darganfyddwch mwy am ein dyfrffyrdd a'n gwlyptiroedd

Camlas Mynwy ac Aberhonddu

Mae'r gamlas yn cynnwys 35 milltir o gamlas y gellir teithio arni o Aberhonddu i Fasn Pum Loc yng Nghwmbrân, saith milltir arall o gamlas na ellir teithio arni i Gasnewydd ar y brif linell, a saith milltir i Gwmcarn ar Fraich Crymlyn. 

Mae nifer yn berchen ar wahanol rannau o’r gamlas. Glandŵr Cymru sy’n berchen ar y rhan ogleddol ac yn ei rheoli, tra bo'r rhan i'r de o Bont-y-pŵl yn eiddo i’r awdurdodau lleol – Torfaen, Casnewydd a Chaerffili. 

Cyngor Torfaen sy'n berchen ar yr adran rhwng Pont 47 (Pont Soloman) a Pentre Lane Cwmbrân

Dros y ddegawd nesaf, mae cynlluniau i wella lefelau dŵr a chyflwr y gamlas ac ymestyn y gallu i deithio i ganol tref Cwmbrân.  

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chris Wyatt, Cydlynydd y Gamlas ar chris.wyatt@torfaen.gov.uk  

Am gyfleoedd gwirfoddoli ar y gamlas, ewch i Gwirfoddoli amgylcheddol 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025 Nôl i’r Brig