Glaswelltiroedd a dolydd

Mae glaswelltir a dolydd yn gynefinoedd hanfodol i amrywiaeth eang o flodau gwyllt a phryfed sy'n hanfodol ar gyfer peillio.  

Mae blodau gwyllt a phorfa hefyd yn helpu i dynnu carbon o'r atmosffer, sy'n bwysig wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.  

Mae mannau gwyrdd hefyd yn fuddiol i gymunedau lleol am eu bod yn cynnig ardaloedd i bobl ymarfer corff, ymlacio a mwynhau natur.  

Natur Wyllt

Rydym wrthi’n creu coridorau glaswelltog er mwyn galluogi natur i symud rhwng safleoedd a chynyddu bioamrywiaeth. 

Yn 2020, diolch i gyllid gan y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, fe’m galluogwyd i nodi ardaloedd glaswelltog y gellid eu torri'n flynyddol a gwaredu ar y borfa ar ddiwedd yr haf; methodoleg a ddefnyddiwyd i annog amrywiaeth o blanhigion.  

Ers hynny, canfuwyd dros 200 o safleoedd sy’n addas ar gyfer y fath dechneg reoli.  

Mae'r rhain yn cynnwys ardaloedd mewn parciau, mynwentydd, ar hyd llwybrau ac ymylon ffyrdd lle nad effeithir ar y gallu i weld.  

Yn 2023, daethpwyd o hyd i heliwr corrod prin mewn dau o'r safleoedd. Mae hyn yn awgrymu bod y rhaglen yn helpu natur i symud i ardaloedd newydd a chynyddu bioamrywiaeth. 

Dysgwch mwy am sut mae ein rhwydwaith glaswelltir yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd.

Dolydd 

Mae dolydd yn ardaloedd glaswelltir mwy sy'n gyfoeth o rywogaethau amrywiol sy’n eu gwneud yn werthfawr o ran bioamrywiaeth. 

Maen nhw ymhlith y cynefinoedd sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn y DU.   

Rydym wrthi’n gwella a chysylltu dolydd trwy greu coridorau glaswelltir, diolch i'r rhaglen dorri a chasglu, flynyddol.

Yn 2019, daethpwyd o hyd i'r blodyn gorudd melyn prin mewn prysgwydd yng Nghwmbrân a oedd ar fin cael ei ddatblygu. Cafodd ei symud i ddôl newydd a grëwyd ger Abaty Llantarnam, sydd erbyn hyn yn Safle  o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur. 

Mae Gwarchodfeydd natur lleol a Safleoedd o Ddiddordeb a Phwysigrwydd Gwyddonol Arbennig hefyd yn gartref i ddolydd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025 Nôl i’r Brig