Coed a choedwigoedd

Mae bron i chwarter y fwrdeistref wedi'i gorchuddio gan goed. 

Torfaen yw’r sir sydd â’r canopi coed trefol fwyaf yng Nghymru yn ôl adroddiad canopi coed Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae coed yn gynefinoedd hanfodol ar gyfer ystod eang o blanhigion, anifeiliaid a phryfed. 

Maent hefyd yn helpu i liniaru effaith newid hinsawdd trwy reoleiddio tymheredd yr aer, cynnig cysgod a dal dŵr tanddaearol yn ôl.  

Mae ymchwil hefyd yn awgrymu y gall coed leihau straen, gorbryder ac iselder a gallant wella hwyliau.  

Darganfyddwch fwy am fanteision amgylcheddol coed.

Mae Strategaeth Coed Torfaen 2021-2031 yn amlinellu sut y bydd y cyngor yn rheoli a gwella’r canopi coed. Mae’n cynnwys yr holl goed, yn cynnwys gwrychoedd, coed stryd a pharcdir a choed ffrwythau. 

Coeden iawn yn y lle iawn

Rydym yn plannu coed yn lle’r rheini sydd wedi cwympo drwy ganfod ardaloedd sy’n addas i dyfu coed newydd. Rydym yn dewis rhywogaethau brodorol sy'n briodol ar gyfer yr ardal. 

Mae Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen yn plannu coed, gwrychoedd a pherllannau cymunedol newydd yn rheolaidd, diolch i raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Rheoli a diogelu coed

Gall cynghorau wneud cais am Orchmynion Diogelu Coed i amddiffyn coed rhag cael eu torri neu eu dinistrio heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio lleol. 

Ni fyddwn yn tynnu coed trefol o dir cyhoeddus heblaw eu bod wedi marw, yn marw, yn dioddef o glefyd sy'n niweidiol i'w diogelwch fel Clefyd coed ynn, neu os ydynt yn beryglus.

Mae angen i benderfyniadau rheoli coed ystyried rhywogaethau a warchodir yn gyfreithiol fel ystlumod ac adar sy'n nythu. 

Ni fyddwn yn tocio neu’n torri coed sy'n gollwng dail, creu cysgod neu’n rhwystro golygfeydd mewn gerddi preifat; coed sy’n hongian drosodd neu goed mawr nad ydynt yn beryglus neu'n niwsans, coed ger adeiladau neu ddraeniau lle nad oes tystiolaeth eu bod yn achosi difrod.

Isod, gallwch roi gwybod am goeden sydd wedi marw neu yn marw, wedi'i heintio neu'n beryglus.

Rhoi gwybod am fater sy’n gysylltiedig â choed

Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025 Nôl i’r Brig